Julie Williams
Julie Williams
The Coaching Den (Cartref The Cooking Counsellor – Recipes for Life)
Trosolwg:
Cwnselydd, Hyfforddwr ac Ymgynghorydd Niwroamrywiaeth
Sectorau:
Gwasanaethau Gofal
Rhanbarth:
Conwy

Rydw i’n hyfforddwr ac yn ymgynghorydd niwroamrywiaeth. Fi yw sylfaenodd gweithdai The Cooking Counsellor; gan fynd ati i ddathlu pobl niwroamrywiol a’u cynorthwyo i greu eu ‘ryseitiau bywyd’ eu hunain er mwyn cael llwyddiant emosiynol, cymdeithasol a phroffesiynol.

Rydw i’n helpu sefydliadau i ddeall a chefnogi’r anghenion amrywiol – a’r cryfderau – sy’n perthyn i weithwyr a chwsmeriaid a chanddynt ffyrdd gwahanol o feddwl a dysgu.

Rydw i’n cynnig gwasanaeth hyfforddi a mentora i unigolion niwroamrywiol sydd eisiau dechrau a datblygu eu busnesau eu hunain.

Rydw i’n awdur cyhoeddedig, yn artist, yn fardd ac yn siaradwr cyhoeddus – dewch inni fod yn greadigol!!

Rydw i wedi gweithio gydag elusennau a mudiadau anghenion ychwanegol ers mwy na 35 mlynedd, gan gynnig atebion cenedlaethol, pwrpasol i’w cleientiaid. Pan oeddwn i’n 52 oed, cefais fy niagnosio ag Awtistiaeth ac ADHD – mae hyn yn esbonio nid yn unig fy nhalent o ran ‘patrymau meddwl’ ond hefyd fy anhawster i ryngweithio a chwblhau tasgau bob dydd y gall pobl eraill eu gwneud yn ddidrafferth.

Rydw i’n gwnselydd cymwysedig ac yn fatriarch i aelwyd niwroamrywiol (yn cynnwys Tigger, y gath gwnsela sy’n hoff o fwythau!). Llwyddais i ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m sgiliau i greu The Coaching Den 4 Life – gan lunio gweithdai rhyngweithiol, gweledol yn ymwneud â gwahanol agweddau ar niwroamrywiaeth sy’n galluogi’r cyfranogwyr i adael gyda phecynnau cymorth ymarferol a all helpu eu cleientiaid.

Cyngor:

  • Ewch ati i ddarganfod beth yw eich gwir ddiddordeb. Beth ydych chi’n dda am ei wneud? Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud? Pa wahaniaeth ydych chi eisiau ei wneud?
  • Beth yw eich cryfderau? Sut allwch chi ddefnyddio eich cryfderau mewn ffordd fanteisiol? Beth yw’r heriau sy’n eich wynebu? Dathlwch eich llwyddiannau a’ch gwahaniaethau ac ymgorfforwch y newid y dymunwch ei weld yn y byd.