Kevin McCabe
Kevin McCabe
Cardiff Martial Arts Ltd
Trosolwg:
Athro yn ei ysgol crefftau ymladd ei hun.
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Caerdydd

Fe astudiais i astroffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Am gyfnod, ro'n i eisiau bod yn beiriannydd sain a gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Rydw i'n addysgu llawer o blant yn fy nghanolfan crefftau ymladd, ond mae oedolion hyd at 60 oed yn hyfforddi gyda mi hefyd. Rydw i'n annog teuluoedd i gymryd rhan gyda'i gilydd hefyd.

"Rhaid i chi fod yn benderfynol o lwyddo a chanolbwyntio'n llwyr ar gyflawni'r llwyddiant hwnnw."

Kevin McCabe - Cardiff Martial Arts Ltd

Ro'n i'n adnabod pobl yn yr un maes busnes oedd wedi troi eu hobi crefftau ymladd yn fusnesau llwyddiannus - ac fe sylweddolais y gallwn i wneud hynny hefyd.

Rydw i wedi cael hyfforddiant Taekwon-do ers i mi fod yn 8 oed.

Felly, mae pobl yn y diwydiant yma wastad wedi bod o fy nghwmpas. Fe gefais rywfaint o gymorth ariannol gan fy nheulu ar y dechrau.

Rwy'n mwynhau'r ffaith bod Taekwon-do wedi dod yn ffordd o fyw imi. Bu'n rhaid imi ddysgu'n gyflym iawn sut i drin arian yn gywir.


Cysylltu gyda Kevin