Kevin Roberts
FK7 Ltd
Trosolwg:
Gwasanaethau moduro a thrawsyriant - cynllunio, atgyweirio, cyflenwi rhannau cerbydau a gerflychau
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Gwasanaeth yng ngweithgynhyrchu a thrwsio gerflychau diwydiannol oedd model busnes gwreiddiol Kevin, yn seiliedig ar y sgiliau a enillodd yn ei swydd flaenorol ac yn ystod ei radd mewn Peirianneg Mecanyddol ym Mhrifysgol Morgannwg. Yna cysylltodd â Chefnogaeth Busnes Cymru a neilltuodd fentor busnes Cychwyn Busnes i Raddedigion iddo.

Paratowch yn drylwyr cyn dechrau masnachu. Gwnewch ddigon o farchnata cyn lansio er mwyn lledaenu eich enw a sefydlu diddordeb cynnar ymysg cwsmeriaid.

Kevin Roberts - FK7 Ltd

Aeth gwefan FK7 yn fyw ddau fis cyn i Kevin ddechrau masnachu mewn gwirionedd. Ond yn ystod yr amser hwn cafodd alwadau ffôn di-rif yn gofyn a oedd ei wasanaeth yn cynnwys trwsio moduron yn gyffredinol yn ogystal â thrawsyriannau. “Rwy’n amcangyfrif fy mod wedi gorfod gwrthod tua £2k o waith,” eglura Kevin, “dyna pryd y sylweddolais fod angen i mi arallgyfeirio’r gwasanaeth roeddwn yn ei gynnig.”

Ac roedd yn dda iddo wneud hynny gan fod y sector trawsyriannau diwydiannol wedi’i effeithio’n wael gan y dirwasgiad; mae Kevin yn credu efallai na fyddai FK7 wedi goroesi pe na fyddai wedi addasu ei fodel busnes. "Mae wedi bod yn her ond roedd yn hanfodol fy mod i’n rhoi cynnig arni." Y prif rwystr oedd talu’r costau ychwanegol. Yn ffodus, cafodd Kevin fwrsari Cychwyn Busnes i Raddedigion a gefnogodd y busnes yn ariannol yn ystod y cyfnod hwn o newid cyfeiriad a, nawr bod 80% o’i fusnes yn cynnal a chadw fflyd, mae Kevin yn ddigon balch ei fod wedi cymryd y risg.

"Helpodd Cefnogaeth Busnes Cymru fi i drefnu fy syniadau yn gynllun busnes cydlynol â rhagolygon llif arian trefnus. Roedd yn wych gwybod bod y person ar ochr arall y ffôn yn cofio popeth amdanaf fi a fy musnes. Nid oedd yn rhaid i mi egluro bob tro!"