Leah
Leah Davies
Leah Sian Davies
Trosolwg:
Rwy’n darparu hyfforddiant, gweithdai, digwyddiadau ac yn rhannu fy neges ar fy mlog a phodlediad.
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

Helo, Leah ydw i ac mae gen i gyffes – mae’n well gen i gŵn na phobl. Rydw i’n hoffi pobl wrth gwrs, ond mae fy ffrind gorau yn Labrador lliw siocled, ac mae’n greadur hardd ar y tu mewn ac ar y tu allan. Mae fy musnes yn helpu pobl ddewr a chalonnog i deimlo’n fwy byw, yn fwy eu hunain, yn fwy parod i fyw bywyd ar eu telerau eu hunain gan wneud pethau sy’n eu gwneud nhw’n hapus go iawn. Rwy’n darparu hyfforddiant, gweithdai, digwyddiadau ac yn rhannu fy neges ar fy mlog a phodlediad.

Rwyf wedi bod yn rhedeg fy musnes ers 2012, ac mae wedi bod yn daith ddatblygu bersonol gwerth chweil. Rydw i wedi dysgu sut i fod yn fos arnaf fi fy hun, ac y fi hefyd yw fy ffrind gorau. Dechreuais fy ngyrfa yn gweithio ym maes gwasanaethau i bobl sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol, a chyda phlant a phobl ifanc mewn gofal preswyl. Paratôdd y ffordd i mi ddysgu a deall sut i gefnogi pobl yn ystod cyfnodau anodd iawn yn eu bywydau. Ar ôl 10 mlynedd yn y gwaith hwn, penderfynodd fy mhartner a minnau deithio’r byd. Fe wnaethon ni dreulio 8 mis yn teithio i Dde America, Seland Newydd, Awstralia a De Ddwyrain Asia, ac fe wnaeth y profiad agor fy llygaid i'r ffyrdd y gallwn ni fyw bywyd ac ennill bywoliaeth.

Fe wnes i gymhwyso fel hyfforddwr bywyd yn 2011 a dechreuais fy musnes hyfforddi myfyrwyr ac athrawon mewn ysgolion i reoli straen a gorbryder. Dros amser, tyfodd hyn i feysydd eraill – gan ddarparu rhaglenni a gweithdai ar gyfer ysgolion a gweithleoedd. Nawr rwy’n cynnal digwyddiadau a rhaglenni yn y gymuned ac ar-lein. Rydw i hefyd yn hyfforddi pobl yn yr awyr agored ac yn dysgu sgiliau iddyn nhw i ofalu am eu lles drwy wneud yn fawr o fyd natur. Rwyf hefyd yn cynnal sesiynau parti dawns yn gynnar yn y bore, Soulful Sunrise, sy’n ysgogi pobl i gychwyn eu diwrnod yn gadarnhaol ac yn llawn cymhelliant.

Mae fy musnes yn parhau i dyfu, i newid ac i ddatblygu gyda mi, ac rwy’n hoffi cael amrywiaeth yn fy nyddiau. Rydw i’n teimlo ei bod hi’n bwysig cael busnes sy’n fy adlewyrchu i a’r neges rydw i eisiau ei chyfleu yn y byd, sef helpu pobl i wybod, deall ac ymddiried ynddyn nhw eu hunain, er mwyn iddyn nhw allu profi’n llawn pa mor wych ydyn nhw a gwneud y gorau o’u bywydau.