Lorraine
Lorraine Allman
Can-Do Child®
Trosolwg:
Canllaw ymarferol i rieni ac addysgwyr i helpu i fagu plant hapus, dyfeisgar, cryf gyda meddylfryd ‘gallu gwneud’.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Amrywiol
Rhanbarth:
Sir Fynwy

Ddwy flynedd ar bymtheg yn ôl, cafodd Lorraine y cyfle i ddechrau ei busnes ei hun ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Hi yw sylfaenydd un o’r pyrth gwybodaeth busnes cyntaf yn y DU (a elwir yn ‘Google for Business’), mae hi wedi bod yn gweithio ar brosiectau addysg y celfyddydau ledled Cymru, ac mae hi wedi rhedeg sawl busnes arall ers hynny. Mae hi wedi ysgrifennu tri llyfr: ‘Enterprising Child’ (2012), ‘The Can-Do Child: Enriching the Everyday the Easy Way’ (2017), ac ‘A Parent’s Guide to Easy, Screen-Free Activities Children Will Love’ (2020) sy’n ymddangos yn aml yn y categorïau Magu Plant a’r 20 Gweithgaredd Gorau i Deuluoedd ar Amazon Kindle.

Yn dilyn buddsoddiad allanol ddiwedd 2014, mae’r busnes wedi tyfu’n gyson, wedi cael ei ail-frandio, ac erbyn hyn mae ganddo ystod o gynnyrch sefydlog sy’n cynnwys apiau, dysgu ar-lein, a chardiau gweithgarwch, sy’n cael eu dosbarthu ar draws y byd. Mae Lorraine yn gweithio yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yn Ne Affrica, ac yn y Dwyrain Canol.

Mae Lorraine yn mwynhau bod yn fos arni ei hun am ei fod yn rhoi hyblygrwydd iddi o ran gweithio o amgylch materion iechyd ac fel rhiant hunangyflogedig. Mae bod yno i’w mab, boed hynny wrth fynd ag ef i’r ysgol, mewn gweithgareddau ar ôl ysgol, neu gael ychydig o amser ymlacio yn bethau na fyddai’n gallu eu gwneud pe bai’n gweithio mewn swydd 9 tan 5. O ran cynlluniau gwaith i’r dyfodol, mae’n canolbwyntio’n gadarn ar dwf y busnes, gan gynnwys ehangu’r canolfannau dosbarthu.

Mae Lorraine wedi bod yn Fodel Rôl ers dros 5 mlynedd, ac mae’n gobeithio y bydd ei gwybodaeth a’i phrofiadau’n cynnig llwyfan gwych i helpu pobl ifanc i archwilio a gwireddu eu potensial yn llawn.

Dyma ei 4 prif awgrym i unrhyw un sy’n ystyried dechrau busnes:

  • Profwch y fasnach yn gyntaf – gwnewch yn siŵr bod pobl eisiau eich cynnyrch, a cheisiwch ddarganfod faint maen nhw’n fodlon ei dalu.

  • Peidiwch â benthyg arian – peidiwch â dechrau eich busnes gyda dyled.

  • Byddwch yn hyblyg gyda’ch syniadau a’ch cynlluniau – pur anaml y mae’r llwybr at lwyddiant yn un syth!

  • Ewch ati i rwydweithio - ar-lein ac oddi ar-lein. Dechreuwch greu cysylltiadau cyn i chi ddechrau eich busnes.

  

Gwefan: www.candochild.com