Lynne King - The Role Model
Lynne King
Daffodil Foods
Trosolwg:
Cyflenwi ystod o iogwrt a phwdinau i'r farchnad yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Roeddwn i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant llaeth ers dros 20 mlynedd ond roeddwn i eisiau gweithio i mi fy hun felly sefydlais Daffodil Foods. Am y tro cyntaf erioed, roeddwn i'n gweithio oriau oedd yn gweddu i mi, er mwyn cyd-fynd â gofalu am y plant, ac roedd fy swyddfa yn yr ystafell ddillad yn fy nghartref. Fe wnes i waith ymchwil, prynais fflasg, a dysgais sut mae gwneud iogwrt. Fe wnes i greu iogwrt arbennig a fyddai’n bodloni gofynion y GIG yng Nghymru o ran maeth. Bûm ar rywfaint o gyrsiau tendro ac yna fe wnes i dendro am fy nghontract cyntaf gyda’r GIG, ac enillais y tendr. Wedyn, defnyddiais sylfaen yr iogwrt hwnnw i greu iogwrt haenog Cymreig arbennig. Gwerthais y syniad i Tesco ac roedd fy iogwrt yn cael ei werthu mewn siopau Tesco ledled Cymru. Ers hynny, rydw i wedi bod yn gweithio gyda chwsmeriaid eraill ac rydyn ni bellach yn cyflenwi ystod o bwdinau a chynnyrch llaeth byw ledled y DU. Dwi wrth fy modd yn bod yn fos arnaf i fy hun, ond rydych chi'n gyfrifol am bopeth. Mae’n rhaid i chi fod yn barod i ddysgu o’ch camgymeriadau (a bydd llawer ohonyn nhw), a dal ati.