Marc Griffiths
StiwdioBox
Trosolwg:
Gwasanaethau dwyieithog i ymgysylltu, ysgogi a diddanu cynulleidfaoedd
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Pan adewais yr ysgol dechreuais fel technegydd llawn amser yn Theatr Felin Fach lle cefais y cyfle i gyflwyno, recordio a golygu rhaglenni ar gyfer Radio Ceredigion.  Ar ôl hynny, ymunais â BBC Radio Cymru, ac yn awr rwyf wedi bod yn gyflwynydd radio am 17 mlynedd.
 
Ceisiwch feddwl am syniad unigryw; a gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o stamina; cymerwch lawer o gyngor ar ddechrau busnes.
Marc Griffiths - StiwdioBox
 
Mae fy nghwmni - StiwdioBox - yn cynnig ystod eang o wasanaethau dwyieithog gyda'r nod o ymgysylltu, symbylu a diddanu cynulleidfaoedd drwy ddefnyddio'r technolegau cyfryngau diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys gweithdai radio i ysgolion i osod gorsaf radio i fyny, podledu i raglenni ymgysylltu â phobl ifanc, yn ogystal â gwaith corfforaethol. 
 
Rwyf wrth fy modd bod yn fos ar fy hun oherwydd y rhyddid mae'n ei roi i mi. Yn y pen draw rwy’n gobeithio ehangu'r busnes dros y ffin.