Ro'n i'n byw yn Llundain, ac fe wnes i greu busnes da iawn yn y diwydiant ffasiwn. Yn ystod dirwasgiad y 70au, fe benderfynais ei bod yn amser imi newid fy ffordd o fyw! Fe symudais i ogledd Cymru a dechrau gwneud a gwerthu tsiytni o gartref. Dyna pryd y meddyliais am yr enw 'Patchwork' am fy mod yn defnyddio darn o glytwaith ar fy jariau.
"Gwneud y gorau y gallwch chi bob amser yw’r unig weledigaeth sy’n gweithio. Nid yw 'gwnaiff hynny'r tro' yn dderbyniol i mi."
Margaret Carter - The Patchwork Traditional Food Company
Roedd y siytni yn boblogaidd ac yn gwerthu, ond doeddwn i ddim yn ennill yr incwm oedd ei angen arna i. Ar ôl cael rhywfaint o ysbrydoliaeth ynghylch beth i'w wneud nesaf, fe ddechreuais wneud a gwerthu pate. Erbyn hyn, mae'r cwmni wedi datblygu i fod y Patchwork Traditional Food Company. Rydyn ni'n gwerthu ein cynnyrch ar draws y byd gan gynnwys i gwmni awyrennau blaenllaw!
Rydw i'n ysgogi fy hun drwy gredu yn yr hyn rwy'n ei wneud, ac rydw i hefyd yn awyddus i gael fy mentora. Rydw i'n meddwl ei bod yn bwysig iawn dysgu gan bobl eraill lwyddiannus.
Cysylltu gyda Margaret