Maria Garwel
Maria Garwell
Maria Garwell
Trosolwg:
Consuriwr sy’n arbenigo mewn partïon plant
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Gadewais yr ysgol gydag ychydig o gymwysterau ac es i weithio mewn cartref hen bobl - tra oeddwn i yno fe wnes i gyfarfod â chonsuriwr, ac fe roddodd wahoddiad i mi weithio fel cymhorthydd iddo ar longau ledled y byd.  Penderfynais mod i eisiau rhedeg y peth felly fe wnes i hyfforddi fel consuriwr a dysgu’r sgiliau y byddwn i eu hangen i lansio fy musnes fy hun.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael profiad yn eich maes gwaith gyntaf i wneud yn siŵr eich bod yn gallu ei wneud – ac yn bwysicach eich bod yn ei fwynhau. Mae llawer o gymorth busnes ac ariannol ar gael i chi i’ch helpu gychwyn busnes.

Maria Garwell

Bellach, rwy’n gonsuriwr, yn ddiddanwr plant ac yn fodelwr balwnau – ac rwy’n perfformio fy sioeau mewn tai preifat neu leoliadau mwy.  Gall digwyddiadau fod yn unrhyw beth o bartïon pen-blwydd ac ymweliadau ag ysgolion, i briodasau a digwyddiadau corfforaethol.  Roeddwn i’n nerfus iawn ar y dechrau ac yn perfformio gyda deialog, ond fe wnes i oresgyn fy ofnau.  Ac fe ddes i ar draws gynhyrchydd gwych a roddodd y sioeau plant gyda’i gilydd gyda mi, a olygodd mod i’n gallu aros yn lleol

Gwefan: www.mariagarwellmagician.com