Martin Sampson
Martin Sampson
Anglesey Divers ac Anglesey Maritime Safety Ltd
Trosolwg:
Hyfforddwr Plymio Proffesiynol, sy’n arbenigo mewn hyfforddiant diogel ac o safon i grwpiau bychan ac unigolion.
Sectorau:
Morol
Rhanbarth:
Ynys Môn

Rwy’n dod o Fryste yn wreiddiol, a dilynais fy mreuddwyd o fod yn hyfforddwr plymio proffesiynol a symud i Ynys Môn i weithio fel hyfforddwr am dymor. Doeddwn i ddim yn bwriadu aros yng Nghymru, ond roedd hi’n anodd gadael harddwch naturiol Môn. Rwyf wedi bod yma ers dros 30 mlynedd bellach, ac rwy’n berchen ar gwmni Anglesey Divers, un o’r busnesau plymio mwyaf hirsefydlog yn y DU.

Rydyn wedi cael nifer o lwyddiannau a gwobrau ac mae dysgu’r naturiaethwr a’r cyflwynydd Cymraeg, Iolo Williams, ymhlith un o’n huchafbwyntiau. Rydyn ni wedi wynebu heriau hefyd, er enghraifft symud lleoliad a chydnabod bod gofyn i ni ddargyfeirio er mwyn parhau i fod yn gyfredol mewn marchnad sy’n newid. Felly, fe wnaethon ni sefydlu ail fusnes, sef Anglesey Maritime Safety Ltd.

Fel rhiant, rwyf wastad wedi bod â diddordeb yn y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc, a bûm yn ymwneud â rhaglen Syniadau Mawr Cymru ar ei ffurf gynharaf, fel Prosiect Dynamo. Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers hynny, ac rwy’n dal i fod yr un mor frwdfrydig dros ysbrydoli pobl ifanc i fentro wrth feddwl am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.