Martyn O'Connor
Heatshine Ltd
Trosolwg:
Dylunio a gosod systemau ynni amgen
Sectorau:
Ynni a Gwasanaethau Amgylcheddol a Nwyddau
Amrywiol
Gwasanaethau Rheoli Preswyl
Rhanbarth:
Ceredigion

Heatshine Ltd yw isadran ynni adnewyddadwy Martyn O'Connor & Co. Rydyn ni'n dylunio ac yn gosod systemau ynni amgen. Rydyn ni wedi cael ein hachredu o dan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu er mwyn i'n cleientiaid allu defnyddio tariffau'r llywodraeth wrth gynhyrchu ynni.

"Rydw i'n credu bod siomedigaethau yn gallu bod yn bethau da a'u bod yn ysgogi ymateb cadarnhaol fel arfer."

Martyn O'Connor - Heatshine Ltd

 

Fe sefydlais y busnes gan fod y cwmni yr oeddwn yn gweithio iddo mewn trafferthion ac yn methu fy fforddio i. Felly, roedd yn gam synhwyrol i mi yn ôl pob golwg. Rydw i'n hoffi gweithio i mi fy hun a chael cyfrifoldeb. Rydw i hefyd yn mwynhau bod yn gyfrifol am fy nhynged fy hun.

Rydw i wedi treulio cryn dipyn o fy mywyd mewn meysydd mecanyddol i ryw raddau. Rydw i'n credu bod siomedigaethau yn gallu bod yn bethau da a'u bod yn ysgogi ymateb cadarnhaol fel arfer.

Mae gen i brofiad o fywyd busnes go iawn i'w rannu. Hoffwn annog pobl ifanc i fynd amdani! Rydw i'n gallu cynnig brwdfrydedd, hiwmor, heb ymffrostio.


Cysylltu gyda Martyn