Meinir Moncrieffe
Meinir Moncrieffe
Moncrieffe Hair & Beauty
Trosolwg:
Gwallt a Harddwch
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Gwynedd

Ar hyn o bryd, rydw i'n berchen ar ddau salon gwallt a harddwch. Mae un ohonyn nhw yng Nghriccieth a'r llall yn Nolgellau. Rydw i hefyd yn bartner gyda sba Môr Forwyn Portmeirion. Fe ddechreuais fy musnes yn ein cartref teuluol ar y pryd ar stryd fawr Criccieth ym mis Ebrill 2000.

Yn ogystal â'n gweithwyr ni ein hunain, rydyn ni'n cynnig mannau ar gyfer cynllunwyr gwallt, therapyddion a harddwyr hunangyflogedig. Ein nod yw cynnig amgylchedd bywiog a chefnogol lle gall gweithwyr proffesiynol y diwydiant gydweithio.

Cefais fy hyfforddi fel artist yn wreiddiol, ond daeth i'r amlwg bod angen rhagor o incwm arna i o hyd. Fe benderfynais ailhyfforddi fel triniwr gwallt, cwblhau fy mhrentisiaeth gyda chwmni cenedlaethol cyn mynd ati i sefydlu fy musnes fy hun. Fy mwriad ar y dechrau oedd ennill digon i helpu i dalu rhai o'r biliau. Fodd bynnag, yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf rydyn ni wedi rhedeg 5 salon a chyflogi 34 o gynllunwyr gwallt. Rydw i wedi hyfforddi 22 o bobl hyd at lefel 3 NVQ, ac mae llawer ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i ddechrau eu busnesau eu hunain.


Cysylltu gyda Meinir