Rwyf wedi bod yn fuddsoddwr eiddo proffesiynol a datblygwr am 15 mlynedd, gan fuddsoddi mewn eiddo preswyl yn Ne Cymru a thramor.
Dechreuais fy ngyrfa buddsoddi mewn tŷ gyda dwy ystafell wely yn 1997, pan sylwais fod y tai o fy nghwmpas yn rhad o'u cymharu â'r rhenti oedd yn cael eu codi. O fewn dwy flynedd roeddwn i wedi prynu dau eiddo 'prynu i’w gosod' ac mewn gwirionedd roeddwn yn gallu byw am ddim o’r elw.
Ewch amdani!
Mike Woods - Active Property Solutions
Ar hyn o bryd mae ansicrwydd mawr yn y farchnad eiddo oherwydd yr argyfwng economaidd a’r banciau angen blaendal o 25%, ac mae prynwyr tro cyntaf yn arbennig yn ei chael yn anodd i godi blaendal i ariannu morgais. Felly, maent yn troi at y farchnad rhentu. Nid oes digon o brynwyr yn y farchnad, a chan fod y galw yn isel, felly hefyd mae’r prisiau a chyfraddau llog. Gyda’r canllawiau a'r wybodaeth gywir, ni fu erioed well amser i wneud arian yn y farchnad eiddo.
Mae llawer o fy llwyddiant o ganlyniad i gefnogaeth buddsoddwr eiddo profiadol y bu i mi droi ato am gyngor, nid yn unig am beth i'w brynu, ond beth i beidio â’i brynu. Dros y blynyddoedd rwyf wedi dysgu gweithio’n gallach yn hytrach na’n galetach.
Rwyf wrth fy modd bod â rheolaeth dros fy sefyllfa ariannol, a gallu gwneud fy mhenderfyniadau fy hun. Mae gen i feddylfryd cadarnhaol iawn ac rwy'n barod i wneud unrhyw beth i gyrraedd fy nod.