Myrddin
Myrddin Ap Dafydd
Gwasg Carreg Gwalch
Trosolwg:
Un o gyhoeddwyr prysuraf Cymru
Rhanbarth:
Conwy

Yn 1980, sefydlais Wasg Carreg Gwalch yn Llanrwst, sy’n parhau i fod yn un o gyhoeddwyr prysuraf Cymru ac yn argraffdy at alwadau’r bröydd o gwmpas. Yn 2006, agorodd Llio fy ngwraig a finnau oriel gelf – Tonnau – ym Mhwllheli ac yn 2011 roeddwn yn un o’r 12 cyfarwyddwr a sefydlodd Cwrw Llŷn.
 

Yr awydd am annibyniaeth i dorri fy nghwrs fy hun a chyfrannu i faes mae gen i ddiddordeb ynddo oedd yr ysgogiad i ddechrau fy musnes fy hun. Mae pob busnes newydd yn dechrau mewn cwt yn fy mhrofiad i!
 

Roedd y ffaith fod fy rhieni wedi mentro agor siop lyfrau Cymraeg yn Llanrwst yn 1955 wedi tanio fy nychymyg i ar hyd fy mhlentyndod.
 

Dydy popeth mewn busnes ddim yn fêl i gyd. Rhaid weithia’ bod yn barod i weithio o lefydd anaddas a gweithio oriau hirion. Ond er gwaetha’ hynny mae bod yn fos fy hun yn rhoi’r rhyddid i mi drefnu’r gwaith a’r pleser o weld y gwaith yn cael ei orffen.
 

Does yr un busnes yn ynys. Mae’n rhan o gylch neu gwlwm o fusnesau eraill o fewn tref neu ardal neu ar draws Cymru. Mae cael cymdogion da yn bwysig felly – cefnogwch eraill a byddan nhw yn eich cefnogi chi.