Neil Cocker
Dizzyjam
Trosolwg:
E-commerce platform for merchandising the independent music industry
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

Rydw i wedi rhedeg busnesau ers i mi raddio. Rydw i hefyd bob amser wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth, ac fe sefydlais i Dizzyjam pan welais fwlch yn y farchnad. Yn syml, mae’n lwyfan e-fasnach er mwyn marchnata’r diwydiant gerddoriaeth annibynnol  gyda nwyddau– mewn geiriau eraill,  ei gwneud hi’n syml i fandiau, DJ’s a chwmnïau recordio werthu, a gwneud elw o’u crysau t, siwmperi ‘hoodie’, mygiau a bagiau. Ar hyn  bryd, rydym yn cynrychioli dros 9,000 o artistiaid, ac mae gennym dros 17,000 o gynhyrchion ar werth ar ein gwefan.

Nawr yw’r amser – dysgwch tra’r ydych yn ifanc a phan nad oes gennych gymaint o bwysau ariannol. Fe ddysgwch lawer, ac mae’n ffordd gymharol  rhwydd

Neil Cocker - Dizzyjam

Roedd fy mlwyddyn  gyntaf mewn busnes yn anrhefn llwyr, ond yn wych. Roeddwn i’n dal i fod yn ifanc iawn, ac nid oedd gen i lawer o bwysau ariannol yr adeg honno, felly fe wnaethom ni ganolbwyntio ar wneud cerddoriaeth dda a mwynhau. Mae wedi bod yn anodd weithiau i greu incwm cyson, cynaliadwy, ac yn ystod y dirwasgiad, roedd hi’n anodd sicrhau buddsoddiad digonol.

Gwefan: dizzyjam.com