Nerys Jones
Nerys Jones
Agri Advisor
Trosolwg:
Gwmni cyfreithiol sy’n arbenigo mewn cynghori busnesau fferm.

Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol sy’n arbenigo mewn cynghori busnesau fferm a phobl cefn gwlad. Mae gennym 3 swyddfa, y brif swyddfa yn Llys y Llan, Pumsaint, ac hefyd un yn y Trallwng ac un yn Hensol, Caerdydd. Mae cleientiaid y busnes yn hanu o bob rhan o Brydain ac rydym yn gallu cynnig cyngor ar nifer o feysydd gwahanol, o gynllunio olyniaeth ac ewyllysiau, hyd at brynu a gwerthu asedau a delio ag anghydfod o bob math. Siaradwyr Cymraeg o gefndir gwledig yw'r mwyafrif o'n staff.

 

Wrth ddechrau a magu teulu cefais y cyfle a'r sialens arbennig i greu y busnes o'r newydd. Roeddwn eisiau gweithio yn y maes cyfreithiol a hynny o leoliad cyfleus yng nghefn gwlad Cymru.

 

Mae gwraidd fy mentergarwch yn dod o'm rhieni, am eu bod nhw wedi dangos i mi bwysigrwydd canolbwyntio ac ethos gwaith caled a'r cyfleon a ddaw yn sgîl hyn i gyrraedd uchelgais. Cefais yr hyder i gymryd y cam mawr o ddechrau'r busnes yn dilyn derbyn cyngor arbenigol mewn sefydlu busnes.

 

Petawn yn gorfod rhestru'r problemau a all godi ym myd busnes byddai’n restr ddi-ddiwedd;  ond dwi'n edrych arnyn’ nhw mewn ffordd bositif. Mae pob dydd yn amlygu sialens neu broblem newydd sy’n rhaid ei datrys, ac mae datrys problemau yn rhan o ofynion swydd cyfreithiwr.

 

Dwi wrth fy modd yn gwneud penderfyniadau am gyfeiriad a nod y busnes;  hyn eto drwy greu ethos o gyd-weithio'n agos fel tîm o fewn y busnes.

 

Fy nghyngor fydda' i chi dreulio cryn dipyn o amser yn ymchwilio'n drwyadl i'ch syniad busnes. Siaradwch ag eraill sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg. Meddyliwch nid yn unig am sut i ddechrau’r busnes ond hefyd sut y byddwch yn ei ddiddymu yn y pendraw. Byddwch yn barod i newid eich cynlluniau a rhoi popeth ag y gallwch chi i'r busnes ar adegau er mwyn sicrhau llwyddiant.