Nick Penny
Nicholas Penny
GSW Software Ltd
Trosolwg:
Rydym yn meddu ar brofiad ymgynghori helaeth ym maes diogelwch y we, gan gynnwys meddalwedd wrth gefn, rheoli dogfennau a diogelwch personol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o sectorau gan gynnwys bancio a chyllid, gwasanaethau ar-lein, teithio, man
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Gwynedd

 

Rydym yn meddu ar brofiad ymgynghori helaeth ym maes diogelwch y we, gan gynnwys meddalwedd wrth gefn, rheoli dogfennau a diogelwch personol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o sectorau gan gynnwys bancio a chyllid, gwasanaethau ar-lein, teithio, manwerthu, addysg, meddygaeth a phrosesu diwydiannol.

Cychwynnodd fy nhaith pan anogodd fy nhad i mi ddysgu peirianneg a meddalwedd pan oeddwn yn yr ysgol. Yn y Brifysgol, astudiais Beirianneg Drydanol ac yna Peirianneg Meddalwedd gyda Mathemateg yn y Brifysgol. Wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, enillais le ar ysgol haf busnes yng Nghaerdydd. Rhoddodd pobl fusnes leol lifft i Gaerdydd i mi ond buont hefyd yn annog pawb ar y cwrs i wneud eu gorau glas.

Llwyddodd fy niddordebau ym maes economeg, ynghyd â’r ysgolion haf yng Nghaerdydd, i ddwyn perswâd arnaf i gychwyn fy musnes fy hun. Ar y dechrau bu’n rhaid imi dderbyn unrhyw ddarn o waith (arian yw’r brenin) ond des i’n fwy medrus ac yn fwy llwyddiannus a cherfiais le i fy hun fel unig fasnachwr. Yn nes ymlaen, unais â phobl eraill i ffurfio cwmni cyfyngedig a dyfodd i gyflogi 25 o bobl yn datblygu meddalwedd a ddefnyddiwyd yn fyd-eang.

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, dechreuais gwmni newydd a oedd yn canolbwyntio’n fwy ar gynhyrchion.

Yn ddiweddarach, rwyf wedi dechrau prosiect cymdeithasol gwyrdd sy’n edrych ar ffyrdd o greu peiriannau sy’n helpu i atal niwed amgylcheddol a achoswyd gan newid hinsawdd. Rydym yn adeiladu peiriant a fydd yn tewhau dalen iâ yr Arctig trwy harneisio pŵer y gwynt i dynnu dŵr oddi tano’r iâ presennol i’r wyneb lle y bydd yn rhewi fel haen newydd. (SikuProject.org)

Fel Cyfarwyddwr Rheoli Pensaer Technegol yn GSW Software rwy’n falch o ddweud ein bod yn meddu ar brofiad ymgynghori helaeth ym maes diogelwch y we, gan gynnwys meddalwedd wrth gefn, rheoli dogfennau a diogelwch personol ar-lein. Rydym yn hyderus o ran rhoi cyngor arbenigol ar feddalwedd ar gyfer dylunio a datblygu cynhyrchion technegol i ystod ehangach o gwmnïau a sefydliadau. (Gan gynnwys busnesau newydd, cwmnïau o’r radd flaenaf a’r sector cyhoeddus).

Ni fyddai unrhyw un o’r pethau uchod wedi bod yn bosib heb feddu ar hyblygrwydd, y cymhelliant i ddysgu’n barhaus a’r gallu i wneud cysylltiadau trwy rwydweithio. Cychwynnodd fy nhaith pan oeddwn yn y 6ed dosbarth, erbyn hyn mae gennyf gyfle i roi rhywbeth yn ôl ac annog y genhedlaeth nesaf.