Nicola Hemsley
Organised Kaos Youth Circus Ltd
Trosolwg:
Cwmni dielw sy’n rhedeg dosbarthiadau mewn campau syrcas ar gyfer y gymuned leol
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

Mae Syrcas Ieuenctid Organised Kaos yn fenter gymdeithasol a chwmni dielw yn y gymuned. Dyma fudiad trydydd sector a arweinir gan y gymuned. Mae’n gwmni syrcas sy’n cynnal dosbarthiadau ar gyfer y gymuned leol, ond mae hefyd yn cael contract i berfformio a chynnal gweithdai nid yn unig ledled Cymru gyfan, ond ym mhob cwr o’r byd hefyd. Maent yn creu gweithdai penodol ar gyfer darparwyr ieuenctid eraill ac yn creu pecynnau pwrpasol ar gyfer corfforaethau a busnesau preifat.
 
Peidiwch â gadael i ddiffyg arian eich rhwystro chi rhag dechrau rhywbeth. Os oes gennych chi syniad da, gwnewch eich ymchwil a mentrwch, oherwydd os mai hwnnw yw’r llwybr addas ac os oes gennych chi ddigon o angerdd, byddwch yn llwyddo’n fuan iawn!
Nicola Hemsley - Organised Kaos Youth Circus Ltd
 
Sylfaenydd y cwmni nodedig yma yw Nicola Hemsley, a gafodd ei chymell i sefydlu ei busnes ei hun ar ôl dychwelyd i’w phentref genedigol. Ar ôl byw a gweithio ym mhob cwr o’r byd, sylweddolodd bod pobl ifanc yn dal i wynebu’r un heriau ag yr oedd hi wedi’u hwynebu wrth dyfu i fyny yn y pentref. Fodd bynnag, creu cyfleoedd i eraill yw’r hyn mae’n ei hoffi fwyaf erbyn hyn am fod yn fos arni hi ei hun. Mae wrth ei bodd gyda safiad moesol y busnes gan ei bod wedi’i sefydlu i ffafrio’r bobl sy’n cymryd rhan a’i chymuned.
 
Taid a Nain Nicola oedd ei hysbrydoliaeth fwyaf wrth sefydlu’r busnes, gan eu bod wedi meithrin yr agwedd ‘os na wnei di hyn, pwy wnaiff?’. Dyma sydd wedi bod yn sail i’r rhan fwyaf o’i phenderfyniadau ar ei siwrnai.                                                         
 
Ymhen pump i ddeng mlynedd, gobaith Nicola yw y bydd ei busnes yn gwbl gynaliadwy ac y bydd ganddi ofod hyfforddiant syrcas cwbl fodern a chynaliadwy ar gyfer gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc fel ei gilydd yng nghymoedd De Cymru a’r cyffiniau.        

Gwefan: organisedkaos.org.uk

Twitter: @OrganisedKaosYC

Facebook: OrganisedKaos