Nigel Packer
Nigel T Packer
Pelatis Online
Trosolwg:
Canolbwyntio ar berchnogion busnes sydd am ddefnyddio'r rhyngrwyd i hyrwyddo a gwerthu eu cynnyrch a'u gwasanaethau.
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Abertawe

Dechreuais fy musnes cyntaf pan oeddwn i’n 12 oed, drwy ddal mecryll a’u gwerthu ar y traeth yn Oxwich.  Roeddwn i’n ennill mwy mewn diwrnod nag oedd llawer oedd yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos yn Abertawe fel gweithwyr siopau.

Ar ddechrau fy ngyrfa bûm yn astudio ac yn gweithio ym maes electroneg, gan symud ymlaen i beirianneg cynhyrchu a rheoli. Y swydd amser llawn ddiwethaf oedd gennyf oedd gweithio i gwmni peirianneg yn datblygu system becynnu newydd ar gyfer coiliau dur, gan ennill nifer o batentau.

Dechreuais fy musnes fy hun gyda fy ngwraig, a oedd yn ddatblygwr gwefannau, yn nyddiau cynnar y rhyngrwyd. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth ymgynghori a hyfforddiant mewn profiad cwsmeriaid digidol a hyrwyddo gwefannau.  Rwyf wrthi’n gweithio ar fy nhrydydd llyfr ar brofiad cwsmeriaid digidol, a gyhoeddir ddechrau 2022.

Bu’r llyfrau yn rhwystr mawr imi ac ystyried fy mod yn dyslecsig. Maent wedi arwain at nifer o ddigwyddiadau siarad lle caf fy nhalu i siarad mewn cynadleddau rhyngwladol, sy’n fonws annisgwyl.

 

“Gorau po ifancaf ydych chi’n dechrau. Gosodwch eich nodau a chofiwch nad oes angen peryglu busnes arall er mwyn tyfu un chi’ch hun. Cefais fy ysbrydoli gan fy nhad a phobl eraill, mae bywyd hefyd yn ysbrydoliaeth wych…mae yna gymaint o bethau’n digwydd allan yna felly ewch allan i’w ddarganfod. Yn olaf, un awgrym arall ichi. Cofiwch gael hwyl ar y siwrnai, fe fyddwch chi’n llawer hapusach.”

Nigel T Packer – Pelatis Online

 

Mae fy musnes - Pelatis Online – yn canolbwyntio ar gwsmer ein cleientiaid, y perchnogion busnes sydd eisiau defnyddio’r rhyngrwyd i werthu eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Mae ein cleientiaid yn amrywiaeth eang o fusnesau newydd, bach, canolig, a mawr a leolir yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Mae bod yn berchennog busnes yn achosi llawer o straen, yn enwedig ar y dechrau, ond yn wahanol i weithio i bobl eraill fe allwch wneud rhywbeth am y peth, mae’r awenau yn eich dwylo chi, mae gennych reolaeth dros eich tynged eich hun. 

Meysydd arbenigedd:

  • Dechrau a thyfu busnes llwyddiannus ar y rhyngrwyd.
  • Marchnata ar y rhyngrwyd
  • Sut i gael y sylw gorau drwy beiriannau chwilio
  • Y cyfryngau cymdeithasol
  • Ysgrifennu cynnwys
  • Profiad Cwsmeriaid Digidol
  • Arloesi
  • Syniadau ac adnabod cyfleoedd
  • Eiddo deallusol
  • Rheoli’r gadwyn gyflenwi