Nigel Thomas
Nigel Thomas
NTP
Trosolwg:
Rheoli ac adeiladu Porffolio Eiddo

Mae gen i 40 mlynedd o brofiad o feithrin gwybodaeth arbenigol mewn pob math o sectorau busnes, gan gynnwys:

Y sector moduro – Gorsaf profion MOT a Gwasanaethu a Llogi Ceir, gorsafoedd petrol a siopau ar y safle.

Y diwydiant lletygarwch – Tafarndai, Clwb Nos a Bwyty.

Y diwydiant hamdden – Safle saethu paent a changen gweithgynhyrchu a oedd yn gwneud dillad ac eitemau ategol.

Y sector gwerthu – Busnes lapio anrhegion a oedd yn gwerthu i WH Smiths a Boots the Chemist.

Siop argraffu fach – Dylunio ac argraffu archebion bach mewn lliw.

Rheolwr Prosiect TG ar gyfer: Dŵr Cymru, Procter & Gamble, M.O.D, I.B.M, ac wedi gweithio fel Uwch Reolwr Prosiect (TG) ar gyfer BBC Wales, BBC Bristol a BBC London.

Gweithgynhyrchu – Gweithgynhyrchu ceginau ar gyfer Tai Cymdeithasol.

Cwmni cynnal a chadw paledi, gan weithio’n uniongyrchol i Rockwool Ltd.

Datblygwr a chwmni rheoli eiddo.

Mae hyn i gyd wedi rhoi gwahanol deitlau swyddi i mi ond, yn bwysicach na hynny, gwahanol swyddogaethau a phrofiadau ym myd busnes. Mae pob ffactor wedi cyfrannu at fy ngwybodaeth i am fyd busnes a fy nealltwriaeth o hynny – o weithio oriau hir, ac anghymdeithasol weithiau, i weithio gyda thimau mawr a bach. Rydw i wedi gorfod gweithio i bobl eraill a gyda phobl eraill, ond erbyn hyn rydw i’n gallu dweud fy mod i’n gweithio i fi fy hun.

Cael y rhyddid i wneud fy mhenderfyniadau fy hun ydy un o’r pethau gorau am fod yn fos arnaf fi fy hun.

Gwybod bod fy llwyddiannau a fy methiannau yn deillio’n uniongyrchol o’r hyn rydw i’n ei wneud. Fi sy’n gyfrifol am lwyddiant neu am fethiant. Os oeddwn i am lwyddo, roedd yn rhaid i mi weithio’n galed.

Mae’r problemau rydw i wedi’u hwynebu yn rhy niferus i’w rhestru, ond fel y dywedodd y dramodydd gwych Samuel Beckett unwaith, “Ever tried, ever failed. No matter. Try again. Fail again. Fail better." Mae entrepreneuriaid yn byw’r geiriau hyn bob dydd, gan fod methiant yn gyfle i ddechrau o’r dechrau ac i wella. Mae pob methiant yn gyfle i ddysgu.

Fy mhrif awgrym i entrepreneuriaid ifanc ydy credwch ynoch chi’ch hun, a mwynhewch y daith. Cofiwch fod pob camgymeriad yn gam tuag at lwyddiant.