Rwy’n gweithio ym maes diwydiant awyr agored fel hyfforddwr gweithgareddau awyr agored. Teg fyddai dweud fy mod yn meddu ar angerdd am ddringo a helpodd fy mhrofiad fel hyfforddwr i mi ehangu profiadau plant rhwng 8 ac 14 oed, tra’n datblygu fy sgiliau rheoli grŵp ac arweinyddiaeth a rhoi profiad gwerthfawr yn y diwydiant awyr agored i mi.
Gan chwilio am weithgareddau mwy anturus, ymunais â’r Fyddin Diriogaethol. Trwy fanteisio ar y cyfleoedd a oedd ar gael yn y Lluoedd Arfog dangosais fy mhenderfyniad i lwyddo gan ennill cymwysterau mewn byr o dro a alluogodd i mi fynd â milwyr i’r mynyddoedd gydag Uwch Hyfforddwr Dringo fy Nghatrawd. Bu hwn yn hynod o gyflawniad pan oeddwn yn weddol ifanc a dangosodd fy mhenderfyniad oherwydd roeddwn mewn cyflogaeth lawn amser o hyd.
Yn 2004 cefais fy newis ar gyfer Tîm Datblygu Trum Gorllewinol Everest, sef y cyrch enwog i ddringo i’r copa. Er nad oedd modd i’r cyrch gyrraedd y copa o ganlyniad i dywydd gwael, bu’r profiadau o fod yn aelod tîm hanfodol a oedd yn gyfrifol am ddiogelwch fy hun a diogelwch fy nhîm, mewn amgylchedd risgiau uchel, yn wersi amhrisiadwy.
Am fy ymdrechion ar y daith a’m hymrwymiad parhaus i’r Fyddin Diriogaethol, dyfarnwyd y Wobr Cobra i mi ar gyfer Milwr Wrth Gefn Gorau Llundain yn 2007. Mae gennyf lygad am ddiogelwch a dull cadarnhaol ac ymrwymiad i’r “tîm” sydd bob amser yn denu sylw a gwerthfawrogiad gan bob unigolyn rwyf wedi gweithio ag ef.
Trwy weithio fel technegydd Mynediad Rhaffau Diwydiannol rwyf wedi mwynhau gyrfa hunangyflogedig fuddiol. Dyfarnwyd y prosiectau mwyaf a mwyaf technegol yn y byd, hyd yma, i mi sef Yr Atomium ym Mrwsel. Gan fod yn filwr wrth gefn o hyd, enillais y wobr dringo creigiau uchaf ar gyfer hyfforddwyr yn y fyddin ac erbyn hyn rwy’n Uwch Hyfforddwr ar gyfer dros 500 o bobl. Credaf fod gennyf ddawn naturiol am weithredu cynlluniau manwl a fy mod yn gweithredu ar fy menter fy hun - mae’r sgiliau hyn wedi fy helpu i gynnal gweithgareddau’n ymwneud â mynydda yn y Deyrnas Unedig ac ar draws Ewrop.
Gan wthio fy natblygiad personol fy hun ymhellach, rwyf wedi trefnu a chymryd rhan mewn bwydo logisteg i gefnogi taith mynydda archwiliol yng Nghylch y Gogledd. Ni allwn gredu pa mor ffodus oeddwn pan gynigiwyd cyfle i mi gynrychioli’r Gwasanaethau Prydeinig ar gyrch ar y pumed mynydd uchaf yn y byd, Makalu. Llwyddodd y tîm i roi cynnig ar hyn am y tro cyntaf gan dîm o Brydain, ond, yn anffodus, hebof i oherwydd penderfynais aros yn y Deyrnas Unedig a chanolbwyntio fy ymdrechion ar Boulders.
Yn 2007 ymunais â Robert Lawrence, a dechreuom wneud cynlluniau i adeiladu ac i weithredu Boulders. Pan ddiogelwyd y pecyn ariannu, bûm yn rheolwr prosiect ar y gwaith o adeiladu Canolfan Ddringo Boulders yng Nghaerdydd. Ar agor y drysau ym mis Awst 2008 fi oedd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau tan 2014, yna des i’n Gyfarwyddwr Rheoli.