Owain Hughes
Owain Hughes
West Wales Weighing
Trosolwg:
Peiriannau pwyso a labelu thermol pwrpasol.
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Sir Benfro

Mae West Wales Weighing yn fusnes teuluol sydd â phrofiad amlwg o gyflenwi peiriannau pwyso a labelu graddfa thermol ledled y DU. Yn ogystal â chyflenwi peiriannau pwyso i rai o gynhyrchwyr mwyaf y DU, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth labelu pwrpasol i helpu cynhyrchwyr i hyrwyddo eu brand eu hunain.

Fel busnes teuluol lleol, rydym yn frwd dros gefnogi busnesau ac unigolion lleol wrth iddynt gymryd camau i wella eu hatebion pwyso a sicrhau eu bod yn dilyn canllawiau’r llywodraeth o ran gofynion labelu.

Sut aeth athro/athrawes yn berchennog busnes bach?

Wel, dechreuodd tra oeddwn ar seibiant gyrfa byr o’r ystafell ddosbarth. Ar ôl dychwelyd o Ganada roedd gennyf ychydig o amser sbâr ar fy nwylo. Ar ôl arsylwi a chefnogi fy nhad wrth iddo ymddeol yn gynnar o’r maes pwyso, gwelais gyfle yn y sector labelu a datblygais beth fyddai’n dod yn rhywbeth teuluol go iawn. Pam wnes i ddechrau’r busnes? Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn busnes ers pan oeddwn i’n ifanc, ac rydw i wrth fy modd yn dysgu pethau newydd. Dechrau busnes oedd y peth newydd ac nid wyf erioed wedi edrych yn ôl.

Pwy neu beth ysbrydoloch chi

Mae fy nhad yn rhywun sy’n fy ysbrydoli. Ar ôl cael y cyfle i weithio gydag ef ym myd busnes, gyda’i brofiad, mae wedi dysgu llawer o sgiliau newydd i mi, o ddysgu sut i raglennu peiriant pwyso i ddelio â chwsmeriaid wyneb yn wyneb.

 Ar ôl gweithio gyda phlant am y rhan fwyaf o’m bywyd gwaith, mae plant bob amser yn ysbrydoliaeth. Yr wyf bob amser yn rhyfeddu at rai o’u syniadau a’u diffyg ofn ynghylch y cyfeiriadau posibl y gallai eu bywydau eu cymryd.

Unrhyw broblemau yr ydych wedi eu goresgyn

Un o’r problemau yr wyf wedi’i chael yn anodd eu goresgyn ac sy’n dal i fod angen sylw cyson yw gweithio gydag aelodau o’r teulu. Mae’n gallu bod yn anodd gwybod ar adegau pryd y dylai’r siarad busnes orffen ac y dylai’r siarad teuluol ddechrau.

Gall fod yn anodd rheoli cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wrth redeg busnes bach. Mae gen i ddau o blant ifanc ac mae’n rhaid i chi fod yn ddisgybledig iawn wrth reoli eich oriau gwaith i sicrhau nad yw’n amharu ar eich bywyd gartref.

Beth yw’r peth gorau am fod yn fos arnoch eich hun  

Y peth gorau am fod yn fos arnaf fy hun yw cael rheolaeth (y rhan fwyaf o’r 

amser) dros wneud penderfyniadau. Mae gallu gwneud penderfyniadau busnes heb orfod ‘gofyn i’r bos’ (y rhan fwyaf o’r amser) yn rhoi teimlad o ryddid.

Rydw i hefyd yn cael boddhad mawr pan rydych chi wedi goruchwylio ac wedi bod yn rhan o’r broses gyfan o gael cwsmer newydd, o drafodaethau cynnar i sicrhau’r busnes yn y pen draw.

Mae cael yr hyblygrwydd i ddewis eich oriau gwaith a’r gallu i roi cynnig ar syniadau newydd hefyd yn werth chweil.

Cyngor gorau i entrepreneuriaid ifanc, ac unrhyw feysydd arbenigol y gallwch eu cynnig

1. Teimlo ysbrydoliaeth a dysgu gan eraill bob amser.

2. Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau (METHU – Ymgais gyntaf i ddysgu)

3. Ymchwilio i’r farchnad rydych chi’n ystyried mynd iddi a dysgu am eich cynnyrch/gwasanaeth.