Paola Dyboski-Bryant
Dr. Zigs Extraordinary Bubbles
Trosolwg:
Gweithgynhyrchu a chynhyrchu rhai o’r swigod o’r ansawdd gorau a charedig i’r amgylchedd, sy’n blastig isel, heb olew palmwydd, yn y byd i gyd.
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Gwynedd

Rwyf wedi gweithio i mi fy hun o’r cychwyn ac wedi arfer cael fy ngweld fel yr un nad yw’n cydymffurfio. Mae’n siŵr mai fy mhrofiad cyntaf o fusnes oedd pan oeddwn yn 8 oed, pan ddechreuais wneud a gwerthu breichledau mwclis ar y passegiata yn Liguria yn yr Eidal, lle cefais fy magu. I mi mae bywyd yn antur fawr ac mae’r gred hon wedi fy ngalluogi i fwynhau taith ryfeddol ac unigryw ar hyd y ffordd.

Rwyf wastad wedi gweithio’n llawrydd, yn hunangyflogedig neu'n rhedeg fy musnes fy hun. Gadewais gartref pan oeddwn yn 17 oed, ac rwyf wedi gweithio fel cyfieithydd, cynnal ymchwil i’r farchnad, fel technegydd theatr yn theatrau enwocaf Llundain, fel llongwr proffesiynol, biolegydd morol, artist, adeiladwr cychod, ethnograffydd. Mi es i Brifysgol ar ôl i fy nau blentyn cyntaf gael eu gwni, ac mi astudiais am radd mewn Twristiaeth Gynaliadwy, a gradd Meistr mewn Cadwraeth Forol pan oeddwn yn rhiant sengl. Rwyf wedi hwylio ar draws Môr yr Iwerydd, wedi gweithio â llwyth brodorol yng nghoedwigoedd glaw Canolbarth America – a hynny pan oedd y plant gyda mi.

Yn 2011, mi sefydlais Dr Zigs. Deuthum ar draws swigod diolch i fy mab ieuengaf Ziggy - fel plentyn bach roedd Ziggy wrth ei fodd â swigod ac roedd yn chwerthin yn afreolus bob tro y byddai’n gweld rhai. O ddechreuad fel hobi anghyffredin i fusnes a oedd yn cael ei redeg ar fwrdd y gegin, rydym bellach wedi ennill gwobrau am ein busnes cynaliadwy - ac rydym yn cynhyrchu rhai o’r swigod o’r ansawdd gorau a charedig i’r amgylchedd, sy’n blastig isel, heb olew palmwydd, yn y byd i gyd.

Mae Dr Zigs wedi bod yn gyfrwng perffaith i fy ngalluogi i edrych ar frwdfrydedd creadigol, ac angerdd am entrepreneuriaeth, sy’n seiliedig ar reddf foesegol ac amgylcheddol sydd wedi bod yn gymaint o ddylanwad ar fy mywyd.

Mae rhedeg Dr Zigs wedi caniatáu i mi fod yn arloesol ac i daro yn erbyn y tresi, ac i rannu hapusrwydd - un swigen ar y tro!

O ddydd i ddydd, rwyf yn dal wrth fy modd yn teithio, yn mwynhau’r awyr agored ac yn tyfu fy llysiau fy hun. Rwyf yn dal i gredu’n angerddol ym mhwysigrwydd hawliau dynol, yr amgylchedd a’r moroedd. Rwyf yn mwynhau hwylio, yn ogystal â fy ngwaith arall, sef bod yn fam i dri o’r bobl fwyaf anhygoel yn y byd.

Beth fyddwn i’n ei rannu? Gall rhedeg eich busnes eich hun fod yn waith caled, ond mae’n werth yr ymdrech am eich bod yn cael lle i fod yn greadigol a chyfle i greu eich breuddwydion eich hun. Credwch ynoch eich hun, peidiwch â gadael i bobl eraill ddweud wrthoch chi na allwch wneud pethau. Dylech bob amser wneud y pethau hynny sy’n eich gwneud yn hapus.