Paula Burns
Paula Burns
PAB Events
Trosolwg:
Mae PAB yn creu digwyddiadau arbennig a phriodasau ac yn darparu digwyddiadau ar gyfer busnesau bychain i hyrwyddo a gwerthu eu cynhyrchion.

Fi yw sylfaenydd a pherchennog fy nghwmni, PAB Events. Mae 2 ran i’r busnes - rwy’n creu digwyddiadau arbennig a phriodasau (steilio’r lleoliad a/neu gynllunio’r cwbl). Rydw i hefyd yn llunio digwyddiadau ar gyfer busnesau bach i hyrwyddo a gwerthu eu cynhyrchion (gan gynnwys gweithdai hyfforddi i’w helpu i fod yn weladwy a chynyddu eu gwerthiant mewn digwyddiadau).

Dechreuais fy musnes er mwyn rhoi fy angerdd dros greadigrwydd ar waith a gwneud yr hyn rwy’n hoffi. Bûm yn gweithio mewn amgylchedd corfforaethol am dros 20 mlynedd ac roedd yn amser i mi hawlio fy hunaniaeth yn ôl. Rydw i wrth fy modd gyda’r profiadau a gaf nawr. Does dim dau ddiwrnod yr un fath â’i gilydd.

Mae gen i angerdd dros fod yn greadigol. Mae’n dod yn naturiol i mi. Rydw i wedi tyfu yn fy musnes i sylweddoli mai dyma sy’n eich helpu chi i fod yn amlwg ymhlith eich cystadleuwyr. Rydw i’n cael fy ysbrydoli gan bobl sy’n dechrau o ddim byd ac yna’n creu rhywbeth anhygoel.

Mae’r diwydiant digwyddiadau’n un cystadleuol iawn. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i mi weithio oriau anghymdeithasol. Rydw i wedi gorfod ailddyfeisio fy hun sawl tro dros y 14 mlynedd y bûm mewn busnes. Mae hyn yn hollol angenrheidiol er mwyn tyfu a pharhau i sefyll allan.

Y peth gorau am fod yn bennaeth yw’r rhyddid i gael bod yn fi fy hun. Mae gen i bellach y cyfleoedd sy’n fy ngalluogi i gael profiadau cyfoethog a helpu eraill i ganfod eu sgiliau creadigol unigryw eu hunain er mwyn datblygu canlyniadau gwych.