Pete James
Pete James
Cintec International
Trosolwg:
Atgyfnerthu strwythurol ac angori i strwythurau
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Casnewydd

Ro'n i'n ddisgybl yn Ysgol Dechnegol Casnewydd cyn mynd ymlaen i Goleg Addysg Bellach Casnewydd, ac fe wnes i gwblhau'r Cymhwyster Cenedlaethol Cyffredin ac Uwch mewn Adeiladu ym 1965. Ro'n i'n Ddirprwy Reolwr Adeiladu i Gyngor Dinas Caerdydd ac yn Rheolwr Gwaith Adeiladu yng Ngwent am lawer o flynyddoedd. Ar ôl ennill profiad yn y diwydiant, rydw i'n rhedeg fy nghwmni fy hun erbyn hyn.

"Chwiliwch am fentor sydd wedi bod drwy'r un broses."

Pete James - Cintec International

Fe sefydlwyd y cwmni cyntaf ym 1984 a'r cwmnïau rhyngwladol eraill o 1994 ymlaen. Mae pencadlys y busnes yn ne Cymru, ond mae ganddon ni gwmnïau annibynnol yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia sy'n darparu dau gynnyrch.

Atgyfnerthu strwythurol ac angori i strwythurau yw'r prif gynnyrch. Waterwall yw'r ail gynnyrch. Dyma gynnyrch sy'n lleihau ffrwydradau dyfeisiadau sydd wedi'u rhoi at ei gilydd, yn enwedig bomiau budr.

Rydw i'n cyflogi tua 60 o staff ac yn isgontractio'r rhan fwyaf o fy ngwaith peirianneg. Rydw i'n mwynhau gorfodi fy hun i wneud y gwaith a'r cyffro. Y peth anoddaf am weithio i chi eich hun yw parhau'n ddisgybledig wrth ichi fynd yn hŷn.


Cysylltu gyda Pete