Philippa Tuttiett
Female Builders and Interiors
Trosolwg:
Gweithlu o fenywod sy’n darparu pob elfen o waith adeiladu
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Caerdydd

Sefydlais F.B.I yn 2007, ar ôl treulio deng mlynedd yn dysgu'r sgiliau gofynnol i fod yn adeiladwr o’r ansawdd uchaf. Gallwn gynnig gweithlu merched i gyd sy'n darparu gwasanaeth adeiladu llawn yn Ne Cymru. Popeth o baentio ac addurno i geginau ac ystafelloedd ymolchi. 
 
Ymchwiliwch eich marchnad, pob agwedd, gyda phwy rydych chi'n cystadlu, ac i bwy rydych am apelio. 
Philippa Tuttiett - Female Builders and Interiors
 
Mae gen i sioe deledu gydag UKTV; DIY with Philippa, wedi bod ar raglen Channel 4 'The Renovation Game’ am dair cyfres ac wedi ffilmio 'My New Home for 5k’ yn ddiweddar gyda Channel 5.
 
Astudio ar gyfer fy ngradd mewn BA Cyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd, a fy nghariad tuag at weithio yn y diwydiant adeiladu a wnaeth fy ysbrydoli i ddechrau fy musnes fy hun. Rwyf eisiau ysbrydoli mwy o ferched i’w weld fel opsiwn gyrfa gwych. 
 
Roedd fy mlwyddyn gyntaf mewn busnes yn anodd, ond dysgais lawer. Fe wnes i'r marchnata a gweinyddu a'r holl waith adeiladu fy hun, nes i mi yn araf ddechrau cyflogi merched eraill a thyfodd y busnes. 
 
Rwyf wrth fy modd bod yn fos ar fy hun, gan wybod y caletaf y gweithiaf y mwyaf llwyddiannus y byddaf.