Rachael Wheatley photo
Rachael Wheatley
Waters Creative Ltd
Trosolwg:
Rydym yn asiantaeth greadigol – Rydym yn gweithio gyda phobl uchelgeisiol er mwyn gwella eu brand a’u presenoldeb digidol â chreadigrwydd a dirnadaeth eithriadol.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol

Roeddwn yn greadigol iawn fel plentyn, ac yn gallu tynnu lluniau. Roeddwn i’n edmygu pobl a oedd yn rheoli eu tynged eu hunain – nid dim ond breuddwydio am bethau y byddent yn hoffi eu gwneud, ond cymryd camau i wneud i bethau ddigwydd yna gweithio’n galed iawn i fod yn llwyddiannus. Erbyn hyn rwy’n berchen ar fy asiantaeth greadigol fy hun yn Abertawe. Rydyn ni’n llwyddiannus ac yn tyfu o’r naill flwyddyn i’r llall – rwy’n mwynhau fy ngwaith. Credwch fi, os gallaf i wneud hyn, gall unrhyw un ei wneud, ac rydw i eisiau ysbrydoli pobl eraill i fentro, bod yn greadigol, ac efallai greu eu busnes eu hunain.

Cefais fy ysbrydoli gan 2 berson: Y cyntaf oedd fy nhiwtor celf TGAU a wnaeth fy nysgu bod modd i rywun redeg ei fusnes ei hun – dyna roedd hi’n ei wneud, ac roedd hi’n credu o ddifri y gallwn i wneud hynny hefyd.

Yr ail oedd fy rheolwr pan oeddwn i’n gweithio i gwmni meddalwedd mawr o’r enw Oracle Corporation UK yn Reading. Rhoddodd gynifer o gyfleoedd i mi, dysgodd fi bod angen i mi weithio’n galed iawn, a heriodd a gwthiodd fi i wneud yn well bob diwrnod. Roedd y rhain yn rhinweddau da rydw i’n ceisio eu meithrin ym mhob un sy’n gweithio i mi.

A’r dyddiau hyn rwy’n cael fy ysbrydoli gan bawb sy’n mentro ac yn cychwyn ei fusnes ei hun.

Roedd adegau yn y dyddiau cynnar pan oeddwn i’n methu â thalu i mi fy hun, ac roedd hynny’n anodd pan oedd gen i deulu ifanc i ofalu amdano.

Mae pobl yn meddwl eich bod yn wirion – yn gadael swydd amser llawn â chyflog da i wneud rhywbeth lle mae cymaint o risg.

Gall adeiladu tîm sydd yr un mor angerddol am y busnes â chi fod yn dipyn o her, ond mae dyfalbarhad yn talu ar ei ganfed yn y diwedd.

Rwy’n gallu gwneud beth bynnag rydw i eisiau ei wneud pryd bynnag rydw i eisiau ei wneud. Rydw i wedi cael llawer o brofiadau a chyfleoedd gwych na fyddwn i wedi eu cael o bosibl pe na bai gen i fy nghwmni fy hun. Rydw i wedi teithio yn Ewrop ac America, a siarad â phobl na fyddwn i byth yn dychmygu y byddwn i wedi siarad gyda nhw. Rydw i wedi cael gwahoddiad i gynifer o ddigwyddiadau, gweld cynifer o leoedd hardd a chael cynifer o bobl anhygoel yn cynnig cyngor a chymorth, ac mae’r holl waith caled wedi dwyn ffrwyth.

Fy nghyngor: Cadwch eich cymhelliant, Datblygwch eich brand personol, Mae amser yn golygu arian, Mae cyfathrebu’n hollbwysig, Agwedd yw popeth

Trosolwg:

 thros 20 mlynedd o brofiad mae Rachael wedi mwynhau gweithio gyda chwmnïau ac unigolion uchelgeisiol i ddatblygu brandiau, cynyddu gwerthiant a hybu eu busnesau gan ddefnyddio’r cyfuniad iawn o ddeunydd gweledol, geiriau a strategaeth. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Rachael wedi mwynhau gweithio ar lefel strategol gyda sefydliadau er mwyn cynyddu llwyddiant yn y sector preifat a chyhoeddus ledled y DU, gan helpu sefydliadau megis GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â helpu cwmnïau neu fusnesau newydd sy’n awyddus i ailfrandio neu roi golwg newydd i’w darpariaeth.

Mae’n cynnig argymhellion ynglŷn â pha gyfeiriad y dylai brand, cynnyrch neu wasanaeth ei ddilyn, ac yna’n datblygu atebion ymarferol i alluogi cynlluniau marchnata i ddiffinio elfennau ac arddull y brand.

Fel Cadeirydd Bwrdd Cyflogwyr y Diwydiannau Creadigol yng Ngholeg Gŵyr, mae Rachael yn angerddol iawn ynglŷn â dyfodol y diwydiant creadigol, ac mae arni eisiau annog mwy o entrepreneuriaeth yn y rhanbarth drwy helpu i gyflymu newid, cynyddu ymwybyddiaeth o’r posibiliadau a bod yn ysbrydoliaeth i bobl eraill.