Rydw i'n rheolwr cerddoriaeth, yn gyhoeddwr ac yn rheoli label recordio yng ngogledd Cymru. Dechreuais fy musnes bron ar ddamwain - ro'n i wedi cael fy ysbrydoli gan reolwyr cerddoriaeth eraill fel Malcolm McLaren (Sex Pistols) ac Andrew Loog Oldham (Rolling Stones) i ddechrau rheoli grwpiau pop, ond gweithio gyda grwpiau Cymraeg oeddwn i am ei wneud yn bennaf.
I fod yn onest, newid y diwylliant Cymreig oedd fy nod yn hytrach na gwneud arian - er i hynny ddigwydd yn sgîl y gwaith.
Dyfyniad gan Malcolm McLaren:
“Mae peidio â bod ofn methu yn eich galluogi i dorri'r rheolau. Drwy wneud hynny, gallech newid y diwylliant".
Rhys Mwyn
Cewch rywfaint o lwc bob hyn a hyn: Fe wnes i reoli Catatonia yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, ac roedd hynny'n help mawr er mwyn i'r busnes allu ffynnu yn ystod y blynyddoedd dilynol.
Erbyn hyn, mae gen i 'bortffolio' o weithgareddau gan nad yw rhedeg label recordio yn talu'r biliau yn yr oes 'lawrlwytho am ddim' sydd ohoni, ac mae cael amrywiaeth o waith yn golygu nad ydych yn dibynnu ar un maes yn unig.