Rhys Webber
Webber Design
Trosolwg:
Addysgu, darlithio a hyfforddiant ym mhob agwedd ar ddylunio graffeg
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Casnewydd

Ar ôl treulio 15 mlynedd yn y diwydiant dylunio graffeg yn Llundain, fe symudais yn ôl i Gymru yn 2005 i sefydlu Webber Design.

Yn ogystal â fy ngwaith yn y diwydiant dylunio, rydw i wedi addysgu, darlithio a hyfforddi ym mhob agwedd ar ddylunio graffeg, dylunio cyfryngau newydd a ffotograffiaeth ers 1992. Fe ddechreuais fel dylunydd graffeg ar gyfer deunydd i'w argraffu (wrth aros i'r we gael ei ddyfeisio), yn gweithio i bapurau newydd a chylchgronau.

"Manteisiwch ar yr holl ffynonellau rhad ac am ddim sy'n cynnig cyngor. Mae angen i chi wybod popeth am eich diwydiant cyn dechrau.

Hefyd, mae angen ichi adnabod eich marchnad a ble mae eich cystadleuwyr wedi gosod eu hunain er mwyn i chi osod eich cwmni mewn man addas ar sail hynny. Byddwch yn barod i weithio oriau llawer hirach nag erioed o'r blaen.

Mwynhewch y profiad (ac os ydych yn ei gasáu, rhowch y gorau iddi a gwneud rhywbeth arall – mae bywyd yn rhy fyr)."

Rhys Webber - Webber Design

Ers ein sefydlu yn 2005, rydyn ni wedi tyfu o fod yn unig-fasnachwr yn gwmni cyfyngedig gyda 7 aelod o staff ar y gyflogres. Rydyn ni'n cynnig siop-un-safle ar gyfer holl anghenion dylunio, cysylltiadau cyhoeddus a ffotograffiaeth ein cleientiaid.

Ar ôl 15 mlynedd yn y diwydiant, fe gollais fy swydd am yr eildro o ganlyniad i'r hyn roeddwn i yn eu hystyried yn arferion gwael gan fy nghyflogwyr. Ro'n i'n benderfynol o beidio â rhoi fy ngyrfa yn nwylo neb arall. Felly, dechrau fy nghwmni fy hun oedd yr unig ffordd ymlaen, gan ddysgu gwersi fy nghyn-gyflogwyr aflwyddiannus.


Cysylltu gyda Rhys