Richard Wyn Huws,
Pant Du a Richard Wyn
Trosolwg:
Perchennog gwinllan sy’n gwerthu gwinoedd, seidr a sudd afal
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Mae Gwinllan a Pherllannau Pant Du wedi ei leoli ar lethrau godidog Dyffryn Nantlle, yng Ngogledd Cymru. Mae'r winllan a'r berllan wedi cael eu plannu ar lethrau deheuol dyffryn rhewlifol, wrth droed yr Wyddfa ers 2006. Mae gennym gaffi a siop ar y safle, gyda golygfeydd godidog o Fynyddoedd Eryri a golygfeydd panoramig o'r môr i'r Gorllewin. Rydym yn fusnes llewyrchus, yn gwerthu gwin, seidr a sudd afal. Daethom o hyd i ddŵr ffynnon o dan y ddaear ym Mhant Du ym mis Ionawr 2013, ac ers hynny wedi cynhyrchu dŵr potel o’r dyffryn. 

Gwnewch eich gwaith ymchwil eich hun ac ewch amdani!

Richard Wyn Huws - Pant Du a Richard Wyn

Prynodd fy nheulu'r fferm yn 2003 pan oedd yn cael ei defnyddio i fagu cig eidion a defaid. Mae rhedeg gwinllan wastad wedi bod yn freuddwyd i mi. 

Rwyf wrth fy modd yn cael y rhyddid i wneud penderfyniadau mewnol a gallu cwrdd â phobl o'r un anian, yn enwedig ym maes busnes; entrepreneuriaid sy'n gallu mynd tu allan i'r bocs.

Mae mor bwysig i fwynhau'r gwaith yr ydych yn ei wneud. Rwyf am rannu'r wybodaeth yr wyf wedi'i chasglu ar y ffordd gyda'r genhedlaeth iau ac i'w hysbrydoli gyda'r posibilrwydd o wneud arian allan o hobi.

Gwefan: http://www.pantdu.co.uk/index.html