Rob Oyston
Sports Xtra
Trosolwg:
Gwersi pel droed i blant
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Caerdydd

Cyn i mi gychwyn fy musnes fy hun fe wnes i gwblhau gradd ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen a hyfforddi pêl-droed yn yr Unol Daleithiau. Rydw i'n cael fy ysbrydoli gan y rhai sy'n gweld bwlch yn y farchnad, sydd ddim yn cael eu rhwystro gan y ffiniau. Yn y bôn, y rhai sy'n gweld rhywbeth ac sy’n ddigon dewr i gefnogi eu hunain a rhoicynnig arni! Cefais fy nghymell i ddechrau i ddarparu sesiynau pêl-droed o safon ar gyfer plant rhwng pedwar a saith oed. Rydym wedi datblygu hefyd i ennyn diddordeb y plant hynny na fyddent fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, drwy wasanaethau megis 'ysgol sbïo' a 'ditectif'.

Os oes gennych fodel busnes da, yr ydych wedi’i gynllunio a’i ymchwilio, y eth gorau y gallwch chi ei wneud yw rhoi cynnig arni dwy gynllun peilot. Fe gewch wybod yn fuan iawn os oes diddordeb yn eich cynnyrch neu wasanaeth.

Rob Oyston - Sports Xtra

Rwyf hefyd wedi mynd o redeg busnes yn Ne Cymru i redeg rhwydwaith masnachfraint cenedlaethol ar draws y DU i gyd. Roedd y flwyddyn gyntaf mewn busnes yn gyffrous iawn, a'r peth mwyaf gwerthfawr a ddysgais oedd i bennu dyddiad iddechrau a mynd ati i gyflawni’r model busnes.

Gwefan: www.sports-xtra.com