Ryan Powell
Ryan Powell
Takeover Academy
Trosolwg:
Mae Takeover Academy yn cynnal gweithdai Creu Fideos i blant sydd â diddordeb yn YouTube a TikTok er mwyn datblygu eu sgiliau â chamerâu, goleuadau, sain a golygu.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Blaenau Gwent

Mae Takeover Academy yn gweld 1,000 o blant ar gyfartaledd bob mis. Mae’r busnes yn cynnal gweithdai gwneud fideos ar draws Cymru a Lloegr. Fe all plant hefyd gofrestru i gymryd rhan mewn rhai o’r cyrsiau ar-lein i ddatblygu eu sgiliau ymhellach. Nod Takeover Academy yw cael plant i ddilyn gyrfaoedd mewn teledu, ffilm a chyfryngau creadigol eraill drwy hyfforddiant.

Cafodd y syniad busnes hwn ei brofi ymhell cyn iddo ddechrau yn swyddogol. Dechreuais y busnes i ddarparu rhywbeth i’r plant na fyddent o bosib yn ffitio mewn clybiau ar ôl ysgol arferol (Pêl-droed, Rygbi ayb) ac a oedd eisiau lle diogel i ddatblygu eu diddordeb yn y cyfryngau digidol. Dechreuais y busnes i ddenu plant oddi wrth eu gemau cyfrifiadurol a’u hannog i fod yn greadigol gyda’u setiau sgiliau. Dechreuais y busnes drwy fuddsoddi £50 i logi ystafell ac yna llenwi’r llefydd drwy hysbysebu am ddim ar Facebook i brofi’r farchnad.

Cefais fy ysbrydoli mewn busnes gan Walt Disney. Y syniad mai’r unig beth sy’n cyfyngu arnom yw ein dychymyg ac mae’r effaith aruthrol y gallwn ei chael ar bobl ifanc drwy’r cyfryngau yn anhygoel. Cefais hefyd fy ysbrydoli i ddechrau busnes gan y rhyddid ariannol mae’n gallu ei greu nid yn unig imi fy hun ond i’r bobl o’m cwmpas hefyd.

Yn 2020, cefais gwymp aruthrol oherwydd y pandemig. Yn anffodus, ni lwyddodd y cwmni’r oeddwn i ynddo i oroesi. Arweiniodd hyn at broblemau ariannol a chefais fy sarhau ar-lein. Roedd hon yn frwydr bersonol roedd raid imi ddysgu oddi wrthi ac addasu ar ei chyfer pan ailddechreuodd y prosiectau. Nawr, mae’r prosiect mewn sefyllfa well nag o’r blaen oherwydd y brwydrau rydyn ni wedi bod drwyddynt.

Y peth gorau am fod yn fos arnaf fi fy hun yw’r ffaith mod i’n gallu dewis fy oriau, addasu’r strategaeth i gyd-fynd â’m ffordd o fyw a’m busnes a helpu fy hun ac eraill yn ariannol. Mae’n rhoi imi fwy o ryddid creadigol i newid fy mywyd yn fwy hyblyg na fyddai swydd.

Strategaeth Farchnata yw fy mhrif faes arbenigedd. Rwyf wedi lansio amryfal sioeau i fod yn llwyddiannau ysgubol drwy brofi’r farchnad a rhoi sylw iddynt drwy gysylltiadau cyhoeddus. Dylech BOB AMSER brofi eich cynnyrch/gwasanaeth cyn buddsoddi cyfalaf yn y prosiect.

Yn ail, rwyf fi wastad yn buddsoddi ac yn sicrhau bod fy sefyllfa ariannol ar ei gorau. Mae gennyf arbenigedd mewn buddsoddi fy nghyflog personol ac arian fy musnes mewn asedau fel crypto, aur, arian, stociau a chyfranddaliadau. Hoffwn i bawb gael y cyfle i gael rhyddid ariannol drwy’r ychydig ddewisiadau clyfar a syml a wnânt. Un o’r llefydd gwaethaf ar gyfer cyfalaf dros ben yw yn y banc. Bechod na fyddai mwy o bobl yn gwybod hyn.