Sara Holden
Sculpture by the Sea UK Ltd
Trosolwg:
Art workshops and events for school children and communities
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Rydym ni’n arbenigo mewn cynnal gweithdai celf a digwyddiadau ar gyfer plant ysgol a chymunedau. Mae’r rhain yn weithgareddau allgyrsiol, ac yn cydfynd gyda’r cyfnod sylfaen ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar o fewn a thu allan i’r dosbarth ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4 ar dir yr ysgol, mewn gwarchodfeydd natur ac ar draethau. Yn ogystal â gweithdai yn ystod tymor yr ysgol, rydym hefyd yn cynnal gŵyl cerflunio flynyddol ar draethau yn Abertawe, y Gŵyr a Chastell Nedd Port Talbot.

Meddyliwch sut allai eich busnes fod o gymorth i’r gymdeithas ac i’r gymuned yn ogystal â darparu arian. Po fwyaf moesol yw’r busnes, mwyaf tebygol y bydd i lwyddo ac i ddod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo.

Sara Holden - Sculpture by the Sea UK Ltd

Bûm yn gweithio ym maes Marchnata a Gwerthiant  yn Llundain am nifer o flynyddoedd cyn symud i Abertawe gyda fy nheulu. Dechreuais wirfoddoli yn ysgol fy merch gyda phrosiectau amrywiol, lle cafodd fy ngwaith ei gydnabod gan Adran Addysg Celf y Cyngor, ac fe dderbyniais eu cynnig i gynnal cyfnodau hyfforddi  celf mewn ysgolion. Wrth i’r rhain gynyddu, roeddwn yn gallu cynnal fy ngyrfa fel artist a sefydlu busnes bychan.

Mae gweithio’n llawrydd a rhedeg eich busnes eich hun yn galw am lefel benodol o hyder, uchelgais, a dewrder i gymryd y risg. Mae’r dirwasgiad presennol wedi bod yn rhwystr sylweddol gan ein bod yn dibynnu ar gymorth ariannol i raddau helaeth i gynnal ein gweithdai.

Fy hoff beth am fod yn fós arna i fy hun yw fy mod yn gallu canolbwyntio ar y pethau sy’n fy niddori fwyaf, fi sy’n penderfynu pa gyfeiriad i’w ddilyn, ac fe allaf fod yn gwbl gyfrifol am unrhyw lwyddiant.

Fel un o naw o blant, cefais fy nysgu i garu byd natur, i fod yn ddyfeisgar ac i ddilyn fy mreuddwydion. Mae fy awydd i rannu fy ngwerthfawrogiad o gelf a natur mewn modd positif yn buddio pobl yn ogystal â lleoliadau.

Gwefan: sculpturebythesea.co.uk