Sara Hunter
FunQi Life
Trosolwg:
Galluogi unigolion i fanteisio ar eu hunan-botensial unigryw
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Sir Benfro

Cyn sefydlu fy musnes fy hun, bues i'n gweithio ym maes gwerthiant a marchnata yn y Dwyrain Canol ac wedyn i Avon yn y DU fel rheolwr gwerthiant.

Fe es ymlaen wedyn i fod yn rheolwr rhanbarthol i Body Shop Direct. Roedd y rôl hon yn ymwneud yn bennaf â hyfforddi a chymell eu gweithwyr gwerthiant uniongyrchol.

"Drwy ddod o hyd i'ch cryfder mewnol a chi eich hun, bydd y swydd gywir yn dod o hyd i chi!"

Sara Maynard - FunQi Life

Doedd gen i ddim syniad beth oeddwn am ei wneud, ond rydw i wastad wedi bod eisiau ysbrydoli eraill yn rhan o fy holl brofiadau gwaith.

Cafodd fy nghwmni, FUNQi Life, ei sefydlu i alluogi unigolion i fanteisio ar eu hunan-botensial unigryw. Dyma'r pŵer yng nghelloedd y corff sy'n gysylltiedig â'r yn gysylltiedig â'r 'Qi', egni grym bywyd.

Rydyn ni'n cynnig sesiynau hyfforddi ac wyneb yn wyneb. Rydyn ni'n gweithio mewn canolfannau ffitrwydd lleol ac mewn ysgolion, cwmnïau lleol, yn y GIG yn ogystal â chefnogi elusennau lleol amrywiol. 

Rydw i hefyd wedi sefydlu cwmni buddiannau cymunedol sy'n gweithio gyda menywod ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD).