Sarah McHarg from Super Calming and Holistic
Sarah McHarg
Super Calming and Holistic
Trosolwg:
Mae Super Calming and Holistic yn fusnes therapi tylino yn seiliedig ar thema Mary Poppins. Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn teithio o swyddfa i swyddfa yng Nghaerdydd yn darparu Diwrnodau Llesiant mewn cwmnïau corfforaethol.
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Caerdydd

Dechreuais fy musnes fy hun ar ôl methu â chadw swydd ar ôl y cyfnod prawf! Yr unig opsiwn oedd bod yn fos arnaf i fy hun yn y diwydiant therapi tylino. Ond roeddwn wedi cael llond bol ar weld yr un hen ddelweddau a brandiau yn cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf o gwmnïau a therapyddion tylino hunangyflogedig. A finnau am sefydlu fy nghwmni fy hun, roedd yn rhaid iddo adlewyrchu fy nghymeriad fel unigolyn ac nid ffitio i’r patrwm arferol o’r hyn roedd y diwydiant neu gymdeithas yn ei ddisgwyl.

A finnau am sefydlu fy nghwmni fy hun, roedd yn rhaid iddo adlewyrchu fy nghymeriad fel unigolyn ac nid ffitio i’r patrwm arferol o’r hyn roedd y diwydiant neu gymdeithas yn ei ddisgwyl.

Mae Super Calming and Holistic yn fusnes therapi tylino yn seiliedig ar thema Mary Poppins. Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn teithio o swyddfa i swyddfa yng Nghaerdydd yn darparu Diwrnodau Llesiant mewn cwmnïau corfforaethol. Weithiau hefyd, rydym yn cynnig apwyntiadau un-i-un ar gyfer amrywiol driniaethau tylino.

Y peth gorau am fod yn fos arnaf fy hun yw’r rhyddid mae’n ei roi ym mhob agwedd o’m bywyd.

Cefais fy ysbrydoli gan y boen o fethu â gallu cadw fy swydd. Ac ar y pryd, doeddwn i chwaith ddim yn gallu delio â fy Syndrom Asperger. Weithiau mewn bywyd, pan fydd rhywun yn teimlo ar ei isaf, rydych chi’n dod o hyd i stamina meddyliol ac emosiynol rhyfeddol i’ch helpu allan o’r duwch. Byd busnes wnaeth fy helpu i feddwl o’r newydd am bethau; a dyna sy’n fy ngalluogi i redeg fy musnes fy hun yn ogystal â gallu ymdopi’n well ag ASD.

Y rhwystr mwyaf i'w oresgyn oedd creu gyrfa a brand sy’n adlewyrchu’n union pwy ydw i. Fy llwyddiant pennaf yw gallu taro cydbwysedd rhwng y rebel a’r daioni yn fy musnes. Y peth gorau am fod yn fos arnaf fy hun yw’r rhyddid mae’n ei roi ym mhob agwedd o’m bywyd.