Shaun Roberts
Shaun Roberts
Creative Catalysts
Trosolwg:
Asiantaeth farchnata ar-lein
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Wrecsam

Roeddwn yn fyfyriwr israddedig pan ddechreuais gasglu gwybodaeth am redeg fy nghwmni fy hun. Tra roeddwn mewn digwyddiad dechrau busnes penderfynais, 'mi fedra i wneud hyn' a wnes i erioed edrych yn ôl. Tra yn y coleg cymerais ran mewn ystod eang o weithgareddau menter a chyfarfod llawer o fodelau rôl ysbrydoledig.  Cymerais hefyd ran yn y cynllun lleoliad gwaith Go Wales ac yn 18 oed roeddwn yn rheolwr TG.
 
Sylweddoli nad rhwystr yw bod yn ifanc, ond mantais. Gall unrhyw un ddechrau busnes; rydych angen hyder a chred yn eich hun. Peidiwch â bod ofn gofyn am gyngor a chefnogaeth a defnyddio unrhyw gyfleoedd a gewch.
Shaun Roberts - Creative Catalysts
 
Mae Creative Catalysts yn Asiantaeth Farchnata Ar-lein sy'n mynd â chleientiaid o syniadau i realiti. Rydym hefyd yn dylunio aps ffonau symudol i ddarparu ar gyfer y farchnad hon sy'n tyfu. Rwy'n mwynhau bod yn fos ar fy hun – mae’r holl broses o fusnes yn fy hudo, o'r cynllunio strategol i weithio gyda sylfaen gleientiaid mawr i rwydweithio gyda chysylltiadau newydd.