Cafodd Nail Divas ei sefydlu gyda grant o £350 gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Dechreuais fel technegydd ewinedd symudol ar fy mhen fy hun, ond roedd gen i 14 yn gweithio imi ymhen blwyddyn. A minnau'n gyn-athrawes, fe es i ati'n fuan i sefydlu ein cangen hyfforddi sy'n addysgu mewn rhai o gwmnïau trin ewinedd mwyaf y DU, a hyd at lefel cwmnïau rhyngwladol.
Rydw i hefyd wedi sefydlu elusen o'r enw Fourteen-A. Ei nod yw cau'r bwlch rhwng y diwydiant a'r colegau drwy gynnig cyrsiau ar gyfer yr unigolion anoddaf eu cyrraedd.