Sian Sykes
Sian Sykes
Psyched Paddleboarding
Trosolwg:
Cwmni llwyddiannus sy’n cynnig profiadau antur padlfyrddio ar eich sefyll.
Sectorau:
Twristiaeth
Rhanbarth:
Ynys Môn

Roeddwn i’n arfer gweithio i Creative Media yn Llundain, fel Cyfarwyddwr Prosiectau, yn gweithio ar frandiau byd-eang digidol. Ond, ar ôl gweithio am 15 mlynedd, a gweithio hyd at 18 awr y dydd yn y diwydiant, roeddwn i’n dymuno cael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ailgysylltu â natur a gwneud rhywbeth a fyddai’n rhoi mwy o foddhad i mi. Dyna pryd gwnes i newid fy ffocws.

Ers gweithio yn y ddinas, rwyf wedi teithio’r byd, yn magu profiadau helaeth o arwain teithiau i Nepal, Mongolia, India, China, Periw, Moroco a’r Alpau.

Fe wnes i sefydlu Psyched Paddleboarding, cwmni llwyddiannus sy’n cynnig profiadau antur padlfyrddio ar eich sefyll.

Llwyddais i gwblhau nifer o heriau a thorri recordiau hefyd. Roeddwn i’n aelod o’r tîm cyntaf i groesi Lloegr ar badlfwrdd sefyll (SUP) a’r person cyntaf erioed i badlfyrddio ar fy sefyll ar fy mhen fy hun ar dri llyn ym Mhrydain, sef Llyn Tegid, Llyn Windermere a Loch Awe mewn tri diwrnod, heb unrhyw gymorth. Fi hefyd oedd y person cyntaf i hwylio o amgylch Ynys Môn ar SUP – cymerodd bum diwrnod i mi gwblhau’r daith 120km.

Fe allech chi fy ngalw i’n weithredwraig, gan fod diben go iawn i fy nhaith fawr ddiweddaraf – tynnu sylw at yr epidemig rydyn ni’n ei wynebu oherwydd deunyddiau plastig untro. Fi oedd y person cyntaf i badlfyrddio ar fy sefyll o amgylch Cymru (ar fy mhen fy hun, heb gymorth) – taith 1000km ar hyd camlesi, afonydd a’r môr. Rwy’n codi arian i elusennau, yn casglu plastig ar hyd y ffordd, yn ysbrydoli eraill i addo rhoi’r gorau i ddefnyddio plastigion untro ac yn rhoi sgyrsiau addysgol.

Rwy’n Llysgennad Byd-eang i Starboard, ac yn aelod o dîm Starboard UK, yn ogystal â phartner swyddogol i Peak UK a llysgennad i’r Academi Sgiliau Dŵr ac Aquapac.

Rwy’n ymddangos fel ‘Arbenigwr’ yng nghylchgrawn SUP International Magazine yn rheolaidd, yn rhannu fy arbenigedd â’r darllenwyr. Rwyf wedi bod ar y cyfryngau hefyd oherwydd fy ymdrech wych yn codi ymwybyddiaeth ynghylch llygredd plastigion a SUP.

Rwy’n frwdfrydig dros ysbrydoli eraill i gael tân yn eu bol, i’w helpu i wireddu eu breuddwydion. Rwy’n awyddus i rannu gwybodaeth sy’n deillio o fy nhaith gyffrous fy hun a rhoi cyngor defnyddiol i bobl ganfod brwdfrydedd pobl eraill a sut mae rhedeg busnes llwyddiannus.

 

*Diolch i Brett Harkness am yr uchod.