Simon Lamble
Blossom Associates
Trosolwg:
Ymgynghorydd gwefannau
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Dechreuais fy ngyrfa yn gweithio ym maes cefnogaeth weinyddol i ganolfannau galw, cyn hynny, fe ddefnyddiais fy mhrofiad o greu systemau canolfannau galw i gael swydd mewn cwmni rhyngrwyd a gweithiais am 10 mlynedd mewn nifer o dotcoms mawr, gan gynnwys swydd Cyfarwyddwr Confused.com.  Sylweddolais fy mod eisiau defnyddio fy mhrofiad i helpu cwmnïau eraill, a sefydlais fy ymgynghoriaeth fy hun, Blossom Associates.

Siaradwch â'ch cwsmeriaid – dowch i wybod sut maen nhw’n ymdrin â’r broses brynu, pa wybodaeth maen nhw’n chwilio amdano, beth sydd ei angen arnynt.  A pheidiwch ag oedi. Ceisiwch gael gwared ar y rhwystrau meddyliol a rhowch gynnig arni. Mae'n llawer haws i wella pethau wrth i chi fynd ymlaen, na chael popeth yn iawn o’r dechrau.

Stephen Lamble - Blosson Associates

 

Rydym yn ymgynghoriaeth gwefannau, yn arbenigo mewn creu a gwella gwefannau ein cwsmeriaid, yn ogystal â marchnata ar-lein, gwella peiriannau chwilio a strategaeth ddigidol.  Petawn i’n cael fy amser eto, fyswn i ddim yn oedi cymaint – roeddwn i'n casáu gwerthu, ac fe wnaeth hynny fy atal rhag sefydlu ynghynt!

Gwefan: http://www.blossomassociates.uk/