Myfyrdod nid meddyginiaeth yn gwireddu breuddwyd busnes entrepreneur ifanc
Mae ei phrofiadau iechyd ei hunan wedi ysbrydoli entrepreneur ifanc o Gaerdydd i sefydlu busnes myfyrdod a fydd yn gwella lles a chynhyrchedd ei chleientiaid corfforaethol ac addysg.
Sefydlodd Siwan Reynolds, 24, Cardiff Meditation ar ôl brwydr bersonol gydag epilepsi. Treuliodd flynyddoedd yn chwilio am ffyrdd i leihau ei ffitiau cyn, yn y diwedd, ddarganfod manteision myfyrio ac ymwybyddiaeth
Pan oedd yn astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Exeter, treuliodd Siwan ei horiau hamdden yn arbrofi gyda sut y gallai leihau ei ffitiau a hefyd geisio canfod sut y gallai leihau faint o feddyginiaeth roedd yn rhaid iddi ei gymryd i reoli ei chyflwr. Yn ogystal â newid ei diet a chael gwared ar gynnyrch llaeth a glwten, dechreuodd Siwan fyfyrio, gyda chanlyniadau a newidiodd ei bywyd.
Ar ôl sylweddoli nad oedd yn cael cymaint o ffitiau ar ôl myfyrio, dechreuodd Siwan gynnwys rhaglen o fyfyrio rheolaidd yn ei bywyd bob dydd. Yn ogystal â gwella ei chyflwr, roedd Siwan yn gweld fod myfyrio wedi gwella ei pherthynasau, bod ganddi fwy o egni a’i bod yn cael canlyniadau gwell yn y brifysgol.
Ar ôl graddio, cymhwysodd Siwan hefyd fel hyfforddwr myfyrio gydag Ysgol Fyfyrio Prydain ac mae’n awyddus i rannu manteision ymarferion ymwybyddiaeth drwy gynnig sesiynau i fusnesau ac i fyfyrwyr mewn ysgolion.
Meddai: “Mae darganfod myfyrio wedi trawsnewid fy mywyd yn gyfan gwbl ac roeddwn i’n teimlo bod yna gyfle busnes gwych i mi rannu fy mhrofiadau
“Mae myfyrio’n gallu cael canlyniadau hynod o bositif mewn ysgolion, yn enwedig wrth daclo stres ac ymddygiad yn gyffredinol tuag adeg arholiadau. Ym myd busnes, gall leihau pryderon a hyrwyddo amgylchedd waith iachach a hapusach.”
Eisoes, mae ganddi sylfaen o gleientiaid gydag ysgolion megis Ysgol Melin Gruffydd yng Nghaerdydd ac Ysgol Gynradd Llancarfan yn y Barri. Ond, erbyn hyn, mae Siwan hefyd yn chwilio am gleientiaid ym myd busnes y gallai eu gweithluoedd fod ar eu mantais o gael sesiynau myfyrio.
Meddai Siwan ymhellach: “Er fy mod yn dal i ddatblygu fy musnes, rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i gael cefnogaeth ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, Chris Howlett, sydd wedi rhoi arweiniad gwych i mi ar farchnata fy nghwmni
“Roeddwn i hefyd ym Mŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru ddiwedd y llynedd gan ddod i ddeall llawer ynghylch adeiladu a chynnal busnes llwyddiannus.”
Gobaith Siwan yn y dyfodol yw ehangu ei busnes drwy gynnig gwasanaeth byd-eang ar lein yn cynnwys webinarau chyrsiau myfyrio a fyddai ar gael drwy ei gwefan.
Meddai Siwan: “Roedd y daith o reoli fy epilepsi yn un hynod dymhestlog ar brydiau ond, diolch i fyfyrio, rwyf wedi llwyddo i droi’r gornel ac arwain bywyd llawer iachach a hapusach. Ond mae’n bwysig cofio y gall unrhyw un, waeth beth yw ei iechyd, oedran na’i broffesiwn, elwa ar ymarferion myfyrio a defnyddio ymwybyddiaeth yn eu bywydau bob dydd.”
A dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: “Mae busnesau fel un Siwan yn enghreifftiau gwych o’r rhai y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i’w cefnogi.
“Fel sy’n cael ei ddangos ein strategaeth genedlaethol sydd newydd ei lansio, ‘Ffyniant i Bawb’, mae’r cynllun gweithredu economaidd yn ymrwymiad i hyrwyddo iechyd, gan gynnwys pwyslais penodol ar iechyd meddwl a sgiliau a dysgu yn y gweithle
“Mae Cardiff Meditation yn ymgorffori ein pwyslais ar wella iechyd meddwl ac rwy’n hynod o falch fod Siwan wedi gallu manteisio ar y gefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan Syniadau Mawr Cymru i drawsnewid ei thaith bersonol yn fenter a fydd yn datblygu i helpu cymaint o bobl eraill.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.cardiffmeditation.com