Llun Spike Blackhurst
Spike Blackhurst
Spike the Blacksmith
Trosolwg:
Gof artistig sy'n creu cynnyrch penodol ac yn addysgu am waith gof.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Powys

Rwy'n Gof Artistig, ac fe ddechreuais fy musnes yn 2003. Yn bennaf, rwy'n dylunio ac yn creu fy holl waith gan gynnwys cynnyrch sydd wedi’i deilwra fel canwyllbrennau a phoceri, grisiau a gatiau, yn ogystal â cherfluniau amrywiol yr wyf yn eu dangos o gwmpas Cymru.

"Mae goresgyn ofnau a wynebu heriau cyson yn rhan o redeg busnes, ond byddwch yn llwyddo os ydych yn frwdfrydig ac yn benderfynol."

Spike Blackhurst - Spike the Blacksmith

 

Rydw i hefyd yn addysgu am Waith Gof Artistig mewn digwyddiadau, ysgolion, gwyliau, yn ogystal â chynnig gwersi preifat.

Fe ddechreuais fy addysg yng Nghaerfaddon gan ennill gradd mewn Cerfluniau Cain, cyn mynd i astudio Gwaith Gof yng Ngholeg Henffordd.

Ar ôl cael prentisiaeth gyda Stokes of England, arian grant a llawer o gyngor, fe ddechreuais fy musnes.


Cysylltu gyda Spike