Rydw i’n ‘unig-entrepreneur’ sy’n rheoli amryfal bortffolios busnes yn y maes Busnes ac Eiddo. Mae fy mhrofiad dros y degawd diwethaf wedi fy arwain i ddatblygu asiantaeth eiddo cymdeithasol a gwasanaeth ymgynghori, sy’n canolbwyntio ar drawsnewid adeiladau diymgeledd a’u troi’n fannau hyblyg defnydd cymysg, gan ddwyn pobl, eiddo a phwrpas ynghyd. Rydw i hefyd yn hyfforddwr busnes cymwysedig sy’n gweithio gyda gwahanol fathau o berchnogion busnes sydd wedi cyrraedd camau gwahanol yn nhwf eu busnesau.
Dechreuais un o’m busnesau cyntaf, sef Revue Studios, ar ôl imi symud yn ôl o Lundain gyda diddordeb ysol mewn coreograffi pan oeddwn yn fy ugeiniau cynnar. Roeddwn i eisiau cynnig yr un cyfleoedd i bobl greadigol yn Abertawe. Gan ddechrau gydag awydd ysol i greu stiwdio ddawns, buan iawn y trodd yn hwb busnes a chelfyddydau yng nghanol y ddinas. Dyma un o’r lleoedd cyntaf yn Abertawe ar gyfer rhannu mannau gwaith (gwasanaeth a oedd ar goll yn y ddinas ar y pryd), a denodd gleientiaid rhyngwladol. Rhoddodd gyfle imi gefnogi artistiaid coluro, fideograffwyr, ffotograffwyr, dawnswyr, gweithwyr llawrydd a busnesau – trwy gynnig lle, cyfleoedd cydweithredol a chymorth busnes annibynnol ar gyfer ehangu eu busnesau.
Yn sgil y galw am hyn, dechreuais glwstwr o fusnesau cysylltiedig, yn cynnwys trawsnewid busnes strategol, masnacheiddio mannau, rhwydweithiau i sylfaenwyr benywaidd, manwerthu a digwyddiadau.
Tra’r oeddwn yn byw yn Llundain, cefais fy ysbrydoli gan adeiladau a mannau a oedd yn cefnogi talent. Pan symudais yn ôl i Dde Cymru, roeddwn yn teimlo’n rhwystredig oherwydd diffyg cyfleusterau a chyfleoedd. Felly, fe es ati i wneud popeth o fewn fy ngallu i esgor ar newid. Ers hynny, rydw i wedi cynorthwyo cannoedd o egin fusnesau ac rydw i wedi ysgogi mentrau a threfniadau cydweithredu newydd.
Law yn llaw â hyn daeth cyfle i weithio gyda Syniadau Mawr Cymru i rannu fy siwrnai fusnes gydag entrepreneuriaid ifanc eraill. Yn sgil y profiad hwnnw, rydw i bellach wedi ychwanegu siarad a gweithdai at fy mhortffolio gwasanaethau.
Oes, mae yna lawer o broblemau gydag adeiladau… a gwylanod yn difrodi adeiladau!
Byddaf yn siŵr o ysgrifennu llyfr am y pwnc hwnnw rhyw ddydd!
Roedd datblygu eiddo ar gyfer amryfal stiwdios yn gyfnod anodd a llawn pwysau. Rydw i wedi troi’r problemau a ddaeth i’m rhan yn wybodaeth sy’n ategu fy ngwasanaeth ymgynghori.
Rydw i’n defnyddio’r wybodaeth hon i helpu busnesau, landlordiaid ac asiantau sy’n defnyddio mannau o’r fath – yn enwedig yn/o amgylch y stryd fawr – i oresgyn y rhwystrau hyn.
Rydw i wrth fy modd yn cysylltu pobl gyda phwrpas yn y lle iawn ar yr adeg iawn, gan adeiladu rhwydweithiau a chymunedau sy’n cynnwys pobl o’r un meddylfryd… gyda phob un ohonynt yn gwneud y pethau sydd wrth eu bodd!
Mae fy ngwaith yn amrywiol iawn bob diwrnod, gan gynnig cyfleoedd i greu pethau y dymunaf iddynt fodoli!
Un o'r pethau gorau ynglŷn â bod yn feistr arnaf fy hun yw gallu gweithio ar brosiectau sy'd wirioneddol bwysig i mi, gyda phobl (glên!) eraill sy'n awyddus i greu effaith. Rydw i'n ffynnu ar y rhyddid a ddaw yn sgil bod yn feistr arnaf fy hun.
Mae gennyf lawer o syniadau yr hoffwn eu datblygu, yn cynnwys dillad ffasiynol i fenywod ar gyfer gweithio mewn swyddfa.
Felly, cadwch eich llygaid ar agor!
Cysylltu gyda Stacey