Stephen Edwards
Stephen Edwards
CREAD Cyf.
Trosolwg:
Mae CREAD Cyf yn gyfuniad o waith graffeg, brandio a gwaith cyfryngau.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Ynys Môn

Ces i fy ngeni yn Llanberis ond rydw i’n byw yn Llanfairpwll gyda fy nheulu erbyn hyn. Mae’n wir dweud bod gogledd Cymru, y cefndir o olygfeydd, y tir a’r bobl yma yn bwysig iawn i mi.

Mae fy nghariad at ddylunio graffeg wedi datblygu ers fy nghyfnod yn y Brifysgol ac ers i mi raddio o Gaerdydd ac Abertawe gyda gradd mewn Dylunio Graffeg. Yn y dyddiau cynnar, roeddwn i’n cyflwyno i BBC Radio Cymru (am dros 10 mlynedd) ac wedyn ar fy rhaglen radio fy hun, ac yn ceisio sefydlu fy musnes fy hun, CREAD Cyf , yr un pryd.

I mi, mae bod yn entrepreneur yn golygu y byddwch chi’n dysgu llawer o sgiliau mewn sawl maes ac, o bosib iawn, ar yr un pryd!

Mae CREAD Cyf yn gyfuniad o waith graffeg, brandio a gwaith cyfryngau. Yr hyn rydw i’n wirioneddol ei fwynhau am fy swydd yw’r holl amrywiaeth. Un diwrnod efallai fy mod yn gweithio ar gyfres rhaglen ddogfen ar gyfer ITV; rhaglenni dogfen fel ‘The Village’ - Portmeirion) neu ‘The Mountain’ (Yr Wyddfa). Wedyn, y diwrnod canlynol, efallai fy mod wrth fy nesg yn dylunio logo neu daflen yn y bore ac wedyn yn ffilmio ar ben mynydd yn y prynhawn!

Mae bod yn fos arnoch chi’ch hun yn rhoi'r hyblygrwydd a’r rheolaeth i chi dros yr hyn rydych chi am ei wneud yn ystod eich diwrnod gwaith.

Pan fydda i ddim yn gweithio neu ddim yn bod yn Fodel Rôl ar gyfer Syniadau Mawr Cymru, dyma rai o’r pethau sy’n mynd â fy mryd:

  • Rydw i’n un o drefnwyr Ras Ryngwladol yr Wyddfa (rhan o’r grŵp cymuned)

  • Rydw i hefyd yn un o drefnwyr digwyddiad cymunedol 5km Llanfairpwll, gan godi arian i elusennau lleol

  • Rydw i’n helpu i drefnu’r 6ed Llwybr

  • Rydw i’n hyfforddi’r tîm pêl-droed dan 10 lleol

  • Rydw i’n un o lywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanfairpwll

  • Rydw i’n is-gadeirydd Cyngor Cymuned Llanfairpwll

O brofiad, mae’n werth bod yn brysur ac mae’n werth adnabod cymysgedd o bobl o bob math o gefndiroedd; does wybod pryd y byddwch chi’n gallu helpu eich gilydd yn y dyfodol.