Stuart Jolley
Wingman
Trosolwg:
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Caerdydd

Hancesi gwlyb pinc i fabanod oedd y catalydd annhebygol a sbardunodd Stuart Jolley i sefydlu ei fusnes ei hun yn cynhyrchu hancesi o’r fath i ddynion.  
 
"Roeddwn i’n gwersylla ar arfordir gorllewinol Ffrainc gyda chriw o ffrindiau a doedd dim llawer o’r cawodydd yn gweithio. Yr unig gynnyrch glanhau oedd ar gael oedd hancesi gwlyb pinc i fabanod oedd ag arogl benywaidd iawn arnyn nhw!" esboniodd.

Ond ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio am radd mewn newyddiaduraeth, ffilm a’r cyfryngau, roedd Stuart eisoes wedi penderfynu yn ei flwyddyn olaf ei fod eisiau sefydlu ei fusnes ei hun yn hytrach na dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth.

"Roeddwn i’n chwilio am syniad creadigol ar gyfer busnes ac fe ddois i o hyd i gynnyrch posib yn ystod y trip hwnnw i Ffrainc. Fe wnes i benderfynu creu hancesi o’r fath i ddynion prysur - i’w defnyddio ar wyliau, wrth deithio, ar ôl bod yn y gampfa, mewn gwyliau cerddoriaeth, wrth glybio ac ar ôl sesiynau chwaraeon."

Gyda’i syniad yn ei feddwl aeth i Her Syniadau Sparks y Brifysgol yn 2009 ac enillodd yr ail wobr o £500. Manteisiodd wedyn ar gefnogaeth fusnes gan Lywodraeth Cymru

"Fe gefais i lawer iawn o gyngor busnes ac, yn allweddol, fe wnes i ddysgu sut i ddrafftio cynllun busnes cynhwysfawr a chydlynol."

Darperir Llywodraeth Cymru Cymorth Busnes i mi gyda llu o gyngor busnes a mwyaf hanfodol sut i ddrafftio cynllun busnes cynhwysfawr a chydlynol.

Stuart Jolley - Wingman

Mae’r gefnogaeth i sefydlu’n cynnig cymorth i fyfyrwyr a graddedigion sydd eisiau sefydlu busnes ac mae’n gallu dangos potensial am dwf.
 
Maent yn cael cynnig hyfforddiant a mentora am hyd at chwe mis cyn dechrau a 12 mis ar ôl dechrau, yn ogystal â chyfres o weithdai cynllunio busnes modiwlaidd.                         

Gwariodd Stuart ganran uchel o’i fenthyciad myfyrwyr ar ddatblygu prototeip ac, yn y diwedd, cafodd hyd i wneuthurwr a oedd yn fodlon creu 10,000 o unedau i ddechrau.          
 
Cafodd yr hancesi a oedd wedi’u lapio’n unigol mewn foil – gyda’r brand Wingman – eu cadw yn ei ystafell wely a’u profi mewn gwyliau cerddoriaeth – mewn llecynnau dan yr enw ‘gorsafoedd glendid’. Roeddent yn eithriadol boblogaidd, gan werthu ar y rhyngrwyd wedyn.           
 
Bu datblygiad mawr yn y busnes pan gafodd ei ddewis fel un allan o ddeg entrepreneur o blith gobeithion 2000 i gymryd rhan yn Britain’s Next Best ar y BBC, gyda’r entrepreneur adwerthu Theo Paphitis.
 
Dros gyfnod o chwe mis, bu Theo’n dilyn prynwyr a chyflenwyr wrth iddynt brofi uchaf ac isafbwyntiau cynnig cynhyrchion newydd arloesol ar y farchnad, o’r cynnig gwreiddiol i gyrraedd silffoedd y siopau.
 
Wedyn gwnaeth Stuart gynnig llwyddiannus i Boots, gan sicrhau contract unigryw gyda’r cwmni. Bellach mae Wingman Wipes yn cael eu stocio mewn mwy na 260 o siopau.

Roedd, meddai, yn ddechrau ardderchog ac yn gyfle gwych. Ers hynny, mae Stuart wedi taro bargen gyda brand King of Shaves, a sicrhaodd gyfran o 24% yn ei fusnes i gynyddu twf y brand ym maes nwyddau ymolchi i ddynion a meysydd eraill.                
 
Mae Stuart yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gafodd ar y dechrau i sefydlu ei fusnes ac mae’n fwy na pharod i weithio gyda Phrifysgol Caerdydd er mwyn annog  entrepreneuriaid eraill posib i fynd amdani
 
Mae'r brand Wingman wedi ehangu ei hudo dynion amrywiaeth ac yn awr yn gwerthu geliau cawod, gofal croen a chynhyrchion eillio mewn i Tesco, Waitrose, Sainsburys, Asda, Waitrose a Superdrug

Gwefan: worldofwingman.com

Facebook: /iamwingman

Twitter: @iamwingman

Instagram: /worldofwingman