Tanya Igic
Tanya's Design Studio
Trosolwg:
Dylunio gemwaith lledr
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Drwy weithio gyda lledr cain o'r radd flaenaf, ac wedi'i ddylanwadu gan themâu blodeuog, naturiol a haniaethol, mae stiwdio Tanya's Design yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gadwyni, clustdlysau, breichledau, gweisg, coleri yn ogystal ag ategolion priodas.

Rydw i'n dylunio darnau wedi eu teilwra ar gyfer eich achlysuron arbennig mewn dros 50 o liwiau. Mae'r dyluniadau wedi ymddangos mewn llawer o gylchgronau a llyfrau ffasiwn a phriodasol fel: Vogue, Craft and Design, Retail Jeweller, Jewellery Making Magazine.

"Peidiwch byth ag ildio. Byddwch yn benderfynol ac yn angerddol ynghylch yr hyn rydych yn ei wneud, a gwnewch iddo ddigwydd."

Tanya Igic - Tanya's Design Studio

Ro'n i'n 20 oed pan benderfynais ddechrau fy musnes rhan-amser. Ro'n i eisiau bod yn annibynnol a dod o hyd i ffordd o wneud arian i mi fy hun.

Ro'n i wir eisiau herio fy hun a phennu fy oriau fy hun. Mae cael rheolaeth greadigol dros y busnes a’r ffaith mai fi sy’n gyfrifol am ei lwyddiant yn rhoi llawer o foddhad imi, hyd yn oed ar adegau anodd.

Fe dreuliais y blynyddoedd cyntaf yn gwerthu mewn ffeiriau crefft lleol heb sylweddoli pa mor dda oedd fy nghynnyrch! Wedi hynny, fe benderfynais ddechrau gwerthu mewn sioeau masnach mawr ac fe wnaeth hynny helpu i werthu fy nghynnyrch ar lefel genedlaethol.


Cysylltu gyda Tanya