Teresa Carnall
TBC Marketing
Trosolwg:
Cwmni Marchnata – hyfforddi perchnogion a rheolwyr busnes i’w helpu i fod y fersiwn orau o’u hunain ac mae’r canlyniadau ar gyfer eu busnesau yn anhygoel
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Conwy

 

TBC Marketing yw Teresa Carnall ac mae fy nghalon wedi’i phlannu ym maes marchnata. Ers i mi fynychu fy narlith gyntaf ar farchnata cefais fy machu. Bu hynny yn ôl ym 1995 ac ers imi raddio mae fy ngyrfa wedi fy nhywys ar hyd y llwybr hwnnw – neu rwyf i wedi tywys fy ngyrfa ar ei hyd.

O newyddiaduraeth i werthiannau a llawer o bethau eraill yn y canol, mae pob swydd fy mod wedi’i hennill wedi meddu ar wreiddiau ym maes marchnata.

Yna yn 2005 sefydlais fy nghwmni marchnata fy hun ac nid oeddwn yn sylweddoli bod cymaint nad oeddwn yn ei wybod! Nid am faes marchnata ond am redeg busnes llwyddiannus. Bu’r blynyddoedd cynnar hynny’n gromlin ddysgu serth gan roi mewnwelediad i mi o ran treialon a thrallodau rhedeg busnes llwyddiannus. Sylweddolais ei fod yn gallu bod yn lle unig ar adegau ond daw’r mewnwelediadau gorau pan fyddwch yn cwmpasu eich hun â phobl o’r un meddylfryd â chi sydd yno i roi cymorth ac arweiniad.

Wrth i fy musnes fy hun ddatblygu a thrwy ofyn i bobl eraill am gymorth, sylweddolais fy mod yn meddu ar gryfder naturiol o ran dymuno datblygu pobl eraill er mwyn iddynt gyflawni eu nodau busnes eu hunain. Pa ffordd well o wneud hyn na thrwy ddefnyddio fy noniau ym maes marchnata i’w hyfforddi i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu busnesau.

Dyna pan greais gangen hyfforddiant fy musnes. Ers hynny rwyf wedi hyfforddi dros fil o berchnogion a rheolwyr busnesau i’w helpu i fod y fersiwn orau o’u hunain ac mae’r canlyniadau ar gyfer eu busnesau yn anhygoel.

Golyga fy mrwdfrydedd naturiol a’m dewrder fy mod yn aml yn cael fy ngwahodd i siarad mewn cynadleddau a digwyddiadau am fy nhaith fy hun, y da a’r drwg, yn enwedig i helpu busnesau i gael y mwyaf o farchnata digidol. Mae fy nghariad at ddatblygu pobl eraill hefyd yn golygu fy mod ar fy ngorau pan gaiff pobl y foment ‘bylb golau’ sydd yn ei dro yn fy annog i rannu yn fwy, i ysbrydoli’n fwy ac i ddod hyd yn oed yn fwy brwdfrydig am wneud hynny!