Tom Martin
Tom Martin Tiling
Trosolwg:
Gwerthwr teiliau waliau a lloriau
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Ar ôl gadael yr ysgol fe wnes brentisiaeth peirianneg, yna llawer o wahanol swyddi - o fecanig a gwerthwr o ddrws i ddrws, dyn hufen iâ i weithiwr dymchwel. Yn y diwedd fe sefydlais fy nghwmni adeiladu bach fy hun, ond roedd yn aflwyddiannus. Dysgodd hyn rai gwersi gwerthfawr i mi, felly pan sefydlais fy musnes teilsio waliau a lloriau cyfredol roeddwn yn gallu gwneud hynny'n iawn.
 
Mae bywyd yn mynd heibio yn gyflym - os ydych wir eisiau rhywbeth, ewch amdani NAWR!
Tom Martin - Tom Martin Tiling
 
Mae rhedeg fy nghwmni fy hun yn rhoi llawer iawn o ryddid i mi allu treulio amser gyda fy nheulu mawr, a dilyn fy hobïau. Rwy’n gwybod os wyf yn methu bydd hynny oherwydd y penderfyniadau yr wyf wedi’u gwneud, ond os byddaf yn llwyddo, unwaith eto, mae hynny i lawr i mi.