Zoila Garman ydw i, ac rwy’n llawn egni: Rwy’n Siaradwr Cymhelliol, Actores, Model, Cantores, Artist, Datblygwr Meddalwedd, Hyfforddwr, Mentor, a mam i 2 o blant. EIN CENHADAETH yn ZYGER FIT yw chwyldroi cymdeithas er gwell a helpu entrepreneuriaid ifanc i wireddu eu breuddwydion a’u nodau drwy hyfforddi a mentora ym maes busnes.
Cefais ambell i gyfnod anodd lle’r oeddwn yn teimlo’n rhwystredig ac yn ddiystyr. Doedd fy mywyd i ddim yn hawdd, fel mam, heb unrhyw gymorth. Doeddwn i ddim yn cael fy ngwerthfawrogi. Dechreuodd fy iselder ar ôl cyfres o gyfnodau anodd yn fy mywyd, fel colli fy swydd, cael problemau yn ymwneud â fy iechyd, yn ogystal â marwolaeth fy nhad. I dorri stori hir yn fyr, dechreuais feddwl bod ffordd well i fyw, er fy lles i ac er lles fy mhlant. Felly, dechreuais i ddeffro bob diwrnod gydag agwedd gadarnhaol, ac ar ôl i mi oresgyn fy iselder, penderfynais helpu pobl eraill. Sefydlais ZYGER FIT sy’n darparu Ffitrwydd i’r meddwl. Ein prif ymadrodd yw BLOEDDIWN GYDA’N GILYDD oherwydd ein bod eisiau rhoi ystyr glir i gymdeithas i ddod â phobl at ei gilydd.
Mae ZYGER FIT yn fudiad newydd yng Nghymru sy’n helpu pobl i oresgyn pryder, iselder a chredoau sy’n eu cyfyngu drwy hyfforddi, mentora ac adnoddau ysbrydoledig. Mae gennym ni raglen radio ar 98.7 FM am 1pm bob dydd Sadwrn. Mae gennym ni sianel YouTube a Phodlediad (ZYGER FIT) hefyd, lle rydyn ni’n rhannu gair i gefnogi a grymuso, gyda cherddoriaeth Affro-Caribïaidd ynghyd â rhythmau Ewropeaidd er mwyn grymuso ein cynulleidfa a chroesawu amrywiaeth o ddiwylliannau ac ethnigrwydd.
Beth bynnag yw eich busnes, eich cefndir, lliw eich croen neu eich statws, mae angen i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i greu cymdeithas well ar ein cyfer ni ac i’r genhedlaeth nesaf. Annog pobl ifanc fydd yn gwneud y gwahaniaeth “GWIRIONEDDOL” i OEDOLION y dyfodol neu i’r gymdeithas yr wyf eisiau byw ynddi yn y dyfodol.
BLOEDDIWN GYDA’N GILYDD = ZYGER FIT.