Ysbrydoliaeth ac Adnoddau i’ch helpu i ddechrau
Am gael help i ddechrau? Rydym wedi casglu rhai adnoddau gwych (clipiau fideo, lawrlwythiadau, gweithgareddau) i gyd mewn un lle a fydd yn eich helpu i feddwl am eich syniad! Byddwch yn darganfod mwy am fentrau cymdeithasol a beth mae’r Llinell Waelod Driphlyg yn ei olygu! Cewch hefyd awgrymiadau da am yr hyn sy’n gwneud fideo a chyflwyniad powerpoint da!
Mentrau Cymdeithasol
Mae Mentrau Cymdeithasol yn teimlo’n angerddol am y byd rydym yn byw ynddo. Diwallu angen sydd wrth wraidd eu cymhelliant i sefydlu busnes. Maent yn fusnesau GO IAWN, sy’n gwneud arian, ond y gwahaniaeth mawr yw y defnyddir yr elw i wneud hyd yn oed rhagor o ddaioni.
Yn 2020, roedd eisoes mwy na 2,000 o fentrau cymdeithasol yng Nghymru yn cyflogi 55,000 o bobl ac yn cyfrannu dros £3bn i’r economi! (Hynny yw £3,000,000,000!)
Erbyn 2030, gobeithir y bydd menterau cymdeithasol yn fodel busnes ddewisol ar gyfer entrepreneuriaid sy’n darparu datrysiadau i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Y Llinell Waelod Driphlyg
Wrth wraidd pob Menter Gymdeithasol (a’r hyn sy’n ei osod ar wahân i fusnes traddodiadol) mae rhywbeth a elwir yn Llinell Waelod Driphlyg. Mae hyn yn cynnwys y 3P sef Pobl, Planed, Proffid. Wrth greu syniadau, meddyliwch am y cwestiynau canlynol:
Pobl: Pwy/beth ydych eisiau ei helpu? Sut y byddwch yn eu blaenoriaethu? Pa effaith fydd eich syniad yn ei gael? Telerau a chyflog y rhai sy’n gweithio?
Planed: Ydy eich gweithgaredd yn un ag effaith isel? Sut fyddwch yn ystyried yr amgylchedd wrth weithredu?
Proffid: Sut fydd eich syniad yn gwneud arian fel y bydd gennych gyflog? Beth fyddwch yn ei wneud gyda’r arian i helpu eich busnes i dyfu? Sut fydd hyn, yn ei dro yn parhau i fod o fudd i eraill?
Hoffem weld tystiolaeth eich bod wedi bod yn ystyriol o’r gwerthoedd hyn.
Astudiaeth achos – edrychwch ar:
https://www.promally.co.uk/
Social Business Wales Awards 2021 provides welcome therapy for the social enterprise sector | Wales Co-operative Centre (One to Watch Award – Prom Ally 1.46m)
Sut mae Prom Ally yn helpu eraill a sut mae’r busnes wedi ystyried y 3P (pobl, planed a proffid)?
Cofiwch edrych hefyd ar y fideos a’r gwefannau isod, ar fentrau cymdeithasol a’r Llinell Waelod Driphlyg!
Adnoddau ar gyfer meddwl am syniadau!
Mae’r fideos isod gan gyrff allanol ac nid ydynt ar gael yn y Gymraeg.
Pam fod yr actor Michael Sheen yn gafael mewn sbaner a beth yw mentrau cymdeithasol? (5m29) *rhybudd: mae’n cynnwys hiwmor!
https://www.youtube.com/watch?v=Ly1xnf6Kx_s&list=TLPQMDUwMTIwMjH9ssal36aqxw&index=2
Mae Michael Sheen eisiau gwybod ble rydych yn prynu eich sanau… (1m32)
https://www.youtube.com/watch?v=T2vxSHkrcns&list=TLPQMDUwMTIwMjH9ssal36aqxw&index=1
Cynhyrchu syniadau – digon o syniadau i’ch ysbrydoli (7m47)
https://www.youtube.com/watch?v=_A58W-MHdpw
Disgyblion o’r Alban yn cyflwyno eu gweithgaredd menter gymdeithasol yn y ffordd fwyaf creadigol! (5m) *sgroliwch i lawr
https://www.socialenterprise.academy/scot/young-people
The Positive Impact of being a Triple Bottom Line company - “os daw mwy a mwy o fusnesau yn fusnesau Llinell Waelod Driphlyg, yna bydd y byd yn lle llawer gwell”. (4m)
https://www.youtube.com/watch?v=MxMtQSo9CHA
2020 – cip olwg byr ond argyhoeddiadol trwy gyfrwng miwsig a delweddau ar sut y gwnaeth gweithgareddau un grŵp wneud gwahaniaeth enfawr yng nghyswllt Pobl, Planed, Proffid (3m55)
https://www.youtube.com/watch?v=3No4cxhe-FY
22 o syniadau mentrau cymdeithasol anhygoel (byd eang)
Mae gweld enghreifftiau o fenter gymdeithasol ar waith yn un o’r ffyrdd gorau i’ch ysbrydoli ar gyfer yr hyn y byddech chi efallai eisiau ei greu. Mae syniadau bob amser yn dechrau yn fach ond yn deillio o’n cydwybod gymdeithasol
https://www.thesedge.org/socent-spotlights/22-awesome-social-enterprise-business-ideas
Adnoddau a dolenni cyswllt Syniadau Mawr Cymru
Social Enterprises / Mentrau Cymdeithasol (2m37)
https://www.youtube.com/watch?v=FZ3iwTEtu70
Model Rôl Syniadau Mawr Cymru - Menna Jones, Antur Waunfawr.
https://vimeo.com/491647630/0f896b67e5 Cymraeg (17m14)
https://vimeo.com/491646020/6190dceb6b Saesneg (7m36)
Ewch i wefan Syniadau Mawr Cymruam ragor o broffilliau Modelau Rôl!
Enterprise Catalyst – cwis ysgogi mentergarwch ar-lein i ddarganfod pa mor fentrus ydych chi mewn gwirionedd!
https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/adnoddau-ar-lein
Rhagor o Fentrau Cymdeithasol Cymru:
Be The Change https://empower-bethechange.org/
Rainbow Biz https://www.rainbowbiz.org.uk/
73 Degree Films https://www.73degreefilms.com/
The Good Wash Company https://goodwash.co.uk/
Arfon Timber https://www.arfontimber.co.uk/
Canolfan Felin Uchaf Centre https://www.felinwales.org
Cwmni Bro Ffestiniog http://cwmnibro.cymru/ (Cymraeg)
http://cwmnibro.cymru/#en (English)
Galeri Caernarfon https://www.galericaernarfon.com/amdanom-ni.html (Cymraeg)
https://www.galericaernarfon.com/eng/about-us.html (English)
Busnesau cymdeithasol arobryn yng Nghymru, Busnes Cymdeithasol Cymru (sgroliwch i lawr )
https://businesswales.gov.wales/socialbusinesswales/cy
Awgrymiadau defnyddiol i greu FIDEO da
Dylai eich fideo fod oddeutu 3 munud o ran hyd (oddeutu 10GB).
Cynhyrchwch eich fideo ar ffurf TIRWEDD nid portread.
Nid oes rhaid iddo fod yn ‘uwch dechnegol’ – defnyddiwch eich ffôn/iPad i’w gynhyrchu. peidiwch â gafael yn y ffôn neu’ch ipad eich hun, gofynnwch i rywun arall wneud hynny neu defnyddiwch treipod.
Gallech hyd yn oed greu animeiddiad os ydy hynny’n well gennych
Sicrhewch eich bod yn cynnwys holl feini prawf yr Her
Awgrymiadau defnyddiol i greu CYFLWYNIAD da
Ni ddylai eich power-point gynnwys mwy nag 8 sleid (oddeutu 30MB)
Gallwch gynnwys lluniau/fideo/sain os ydych yn dymuno
Sicrhewch eich bod yn defnyddio holl feini prawf yr Her