Gwasanaeth Paru

Ydych chi eisiau arafu neu gamu’n ol o'r diwydiant? Ydych chi am roi cyfle i berson ifanc ddechrau ffermio? Beth am ystyried menter ar y cyd?

Mae Cyswllt Ffermio yn gallu paru ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n barod i gamu’n ôl o’r diwydiant gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gychwyn ffermio yn annibynnol. Mae’n rhoi arweiniad i bobl ar y ddwy ochr trwy’r camau allweddol sydd angen eu cymryd i ganfod partner busnes posib. Mae'r pecyn cymorth yn cynnig gwasanaeth paru, mentora, cynllun busnes a chyngor cyfreithiol i ddarparu arweiniad ar bob cam o sefydlu menter ar y cyd.

Ydych chi'n dirfeddiannwr sy'n chwilio am bartner busnes?

Cliciwch yma i lenwi Proffil Darparwr neu cysylltwch a'n Hwylusydd Olyniaeth er mwyn trafod eich opsiynau ar gyfer hysbysebu eich cyfle.

Eiry Williams - 07985155670 / eiry.williams@menterabusnes.co.uk